Herodotus

ysgrifennwr, gwleidydd, hanesydd, daearyddwr

Hanesydd Groeg oedd Herodotus neu Herodotus o Halicarnassus (Groeg Hρόδοτος hλικαρνoσσεύς) (c.485 CC - 425 CC), a aned yn Halicarnassos, trefedigaeth Roegaidd ar arfordir deheuol Asia Leiaf. Cicero a'i alwodd yn "Dad Hanes" am y tro cyntaf.

Herodotus
Ganwydc. 484 CC Edit this on Wikidata
Halicarnassus Edit this on Wikidata
Bu farwThurii Edit this on Wikidata
Man preswylHalicarnassus, Samos, Thurii Edit this on Wikidata
DinasyddiaethHalicarnassus Edit this on Wikidata
Galwedigaethhanesydd, gwleidydd, ysgrifennwr, daearyddwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amHistoriau Herodotus Edit this on Wikidata

Pan ddaeth y dinasoedd Groegaidd yn Asia Leiaf yn rhydd o reolaeth Persia, teithiodd Herodotus yn Asia Leiaf, ynysoedd Môr Egeaidd, Gwlad Groeg, Macedonia, Thracia, arfordir y Môr Du, Persia, Tyre a Ffenicia, yr Aifft a Cyrenaica. Yn 443 CC aeth i'r drefedigaeth Athenaidd newydd Thurii, ar Gwlff Tarentino. Oddi yno ymwelodd â Sisili a sawl dinas yn ne'r Eidal. Roedd yn ddyn chwilfrydig iawn, a chasglai bob math o ddeunydd yn ymwneud â hanes, mytholeg, daearyddiaeth, ethnoleg ac archaeoleg yr Henfyd a'r tu hwnt.

Ei fwriad oedd cyfansoddi llyfr hanes yn olrhain cwrs ac achosion y rhyfeloedd rhwng y Groegwyr a'r barbaroi (barbariaid neu estronwyr). Mae ei lyfr enwog yr Historiai yn dechrau gyda chwncwest y dinasoedd Groegaidd yn Asia Leiaf gan yr ymerodr Persiaidd Croesus. Wedyn cawn hanes Lydia, Persia, Babilon a'r Hen Aifft. Mae'r llyfr yn gorffen â hanes y Rhyfeloedd Persiaidd (500 CC - 479 CC).

Argraffiadau ar-lein golygu