Ynys yn y Caribî yw Hispaniola. Hi yw ynys ail-fwyaf y Caribî ar ôl Ciwba, gyda phoblogaeth o tua 17.5 miliwn. Mae wedi ei rhannu rhwng dwy wlad: Haiti yn rhan orllewinol yr ynys a Gweriniaeth Dominica yn ffurfio'r canol a'r dwyrain.

Hispaniola
Mathynys Edit this on Wikidata
Poblogaeth22,261,005 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC−05:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolAntilles Fwyaf, West Indies Edit this on Wikidata
LleoliadMôr y Caribî Edit this on Wikidata
GwladGweriniaeth Dominica, Haiti Edit this on Wikidata
Arwynebedd76,420 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr3,098 metr Edit this on Wikidata
GerllawCefnfor yr Iwerydd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau19°N 71°W Edit this on Wikidata
Map
Lleoliad Hispaniola

Yr enw brodorol ar yr ynys oedd Quisqueya ("mam yr holl wledydd"). Cyrhaeddodd Christopher Columbus yma ar 5 Rhagfyr 1492, ac enwi'r ynys yn La Española ("Sbaen fechan"), "Hispaniola yn Lladin. Yn 1697, ildiodd Sbaen draean gorllewinol yr ynys i Ffrainc. Galwyd y rhan yma yn Saint-Domingue, a daeth yn Haiti yn ddiweddarach.

Mae arwynebedd Hispaniola yn 76.480 km². Copa uchaf yr ynys yw Pico Duarte, 3,087 medr o uchder.