Mae Hollyoaks yn opera sebon yn y DU a ddarlledwyd am y tro cyntaf ar y 23ain o Hydref, 1995 ar Sianel 4. Yn wreiddiol, syniad Phil Redmond a ddyfeisiodd y rhaglenni Brookside a Grange Hill oedd Hollyoaks. Lleolir y rhaglen yn un o faesdrefi ffuglennol Caer o'r enw Hollyoaks, ac mae'r llinynau stori yn gwirdroi o amgylch coleg addysg bellach lleol o'r enw Hollyoaks Community College. Mae'r mwyafrif o'r cymeriadau yn eu harddegau hwyr neu ugeiniau cynnar. Ers 1995, mae'r cast wedi datblygu o saith prif gymeriad yn unig i oddeutu 50 o aelodau.

Hollyoaks
Genre Opera sebon
Serennu Rhestr o gymeriadau Hollyoaks
Gwlad/gwladwriaeth DU
Iaith/ieithoedd Saesneg
Cynhyrchiad
Amser rhedeg c.25 munud
Darllediad
Sianel wreiddiol Channel 4
Darllediad gwreiddiol 23ain o Hydref, 1995 – Presennol
Cysylltiadau allanol
Gwefan swyddogol

Ar hyn o bryd, cyfarwyddir y sioe gan Lucy Allan a olynodd Bryan Kirkwood fel cynhyrchydd ar ddiwedd 2008.

Cymeriadau golygu

Sienna Blake golygu

Cymeriad direidus yw Sienna Blake sydd wedi cael plentyndod a bywyd anodd, rŵan mae ei bywyd yn hollol wahanol, mae wedi cyfarfod cariad sydd yn edrych ar ei hôl. Yn 2017 wnaeth Sienna roi genedigaeth i efeilliaid, un hogyn bach Sebastian ac un Hogan fach Sophie. Athrawes yw Sienna yn dysgu plant. Mae ganddi hanner chwaer o’r enw Liberty. . Yn ôl yn y flwyddyn 2000 Ganed Nico Blake merch i  Sienna pan oedd Sienna ond yn dairarddeg oed. Mae gan Sienna frawd sydd yn efaill iddi ac yn Ewythr i Nico.

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am deledu. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato