Hominidae
Amrediad amseryddol: Mïosen-Holosen, 14–0 Miliwn o fl. CP
Dau hominid: Bod dynol (Homo sapiens) a tsimpansî cyffredin (Pan troglodytes)
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Urdd: Primates
Is-urdd: Haplorhini
Uwchdeulu: Hominoidea
Teulu: Hominidae
  • Pongidae Elliot, 1913
Teip-enws
Homo
Linnaeus, 1758
Genws

Teulu o epaod mawr a nodweddir gan wyneb di-flew gyda gwefusau ymwthiol a dwylo gydag olion bysedd cymhleth ac ewinedd gwastad yw'r Hominidae (hefyd: epaod mawr neu hominidau), sy'n cynnwys saith rhywogaeth mewn 4 genws: Pongo, orangwtang Borneo, orangwtang Sumatra; Gorila, gorila gorllewinol, gorila'r Dwyrain; Pan, y tsimpansî cyffredin a bonobo; a Homo, sef bod dynol.[1]

Gyda darganfyddiadau archaeolegol newydd, mae'r dosbarthiad gwyddonol yn newid yn aml, ac mae union ddiffiniad y gair hominid hefyd wedi newid dros y blynyddoedd. At fodau dynol (Homo) a'u perthnasau agos yn unig y cyfeiriai ar y cyhwyn. Bellach defnyddir y term 'hominin' i'w disgrifio y grŵp hwn. Erbyn yr 21ain ganrif roedd y gair 'hominid' yn cynnwys yr 'epaod mawr' i gyd, gan gynnwys bodau dynol.

Trigodd yr hynafiaid cyffredin agosaf i'r presennol oddeutu 14 miliwn o flynyddoedd yn ôl (CP)[2] pan wahanodd hynafiaid yr orangwtang o linell y tri genera arall.[3] Roedd hynafiaid y teulu Hominidae eisioes wedi gwahanu o deulu'r Hylobatidae (y giboniaid), rhwng 15 a 20 miliwn o flynyddoedd yn ôl.[3][4]

Dosbarthiad golygu

Fel rheol, fe'i dosberthir fel a ganlyn:

  1. Nodyn:MSW3 Groves
  2. Andrew Hill & Steven Ward (1988). "Origin of the Hominidae: The Record of African Large Hominoid Evolution Between 14 My and 4 My". Yearbook of Physical Anthropology 31 (59): 49–83. doi:10.1002/ajpa.1330310505
  3. 3.0 3.1 Dawkins R (2004) The Ancestor's Tale.
  4. "Query: Hominidae/Hylobatidae". Time Tree. 2009. Cyrchwyd Rhagfyr 2010. Check date values in: |accessdate= (help)