How Green Was My Valley (ffilm)

ffilm ddrama a seiliwyd ar lenyddiaeth gynharach gan John Ford a gyhoeddwyd yn 1941

Ffilm gan John Ford sy'n seiliedig ar y nofel o'r un enw gan Richard Llewellyn yw How Green Was My Valley (Pa mor wyrdd oedd fy nghwm) (1941).

How Green Was My Valley

Poster y Ffilm
Cyfarwyddwr John Ford
Cynhyrchydd Darryl F. Zunick
Ysgrifennwr Richard Llewellyn
Phillip Dunne
Serennu Walter Pidgeon
Maureen O'Hara
Anna Lee
Donald Crisp
Roddy McDowall
Cerddoriaeth Alfred Newman
Sinematograffeg Arthur C. Miller
Sain Eugene Grossman
Roger Heman Sr.
Dylunio Richard Day
Nathan Juran
Cwmni cynhyrchu 20th Century Fox
Dyddiad rhyddhau 28 Hydref 1941
Amser rhedeg 118 munud
Gwlad Unol Daleithiau
Iaith Saesneg
Cymraeg
(Saesneg) Proffil IMDb

Crynodeb golygu

Hanes un teulu yng nghymoedd glofaol de Cymru yn ystod teyrnasiad Brenhines Fictoria, sef y Morganiaid, sydd yn ganolog i’r stori yn y ffilm hon ac fe’i hadroddir trwy lygaid y mab ieuengaf, Huw. Darlunir uned deuluol glos, gweithgar a chapelgar. Dan ofal y tad, Gwilym, a’r fam, Beth, mae chwech o feibion, Ivor, Davy, Ianto, Gwilym, Owen a Huw ac un ferch, Angharad. Dilynir eu hanes trwy gyfnodau llawen megis priodasau, a hefyd trwy gyfnodau llawn tristwch a chaledi megis damweiniau a streiciau yn y lofa. Yn gefnlun i’r cyfan, mae dadfeiliad y gymuned a llygredigaeth y cwm.

Defnyddir hen emyn-donau fel ‘I Galfaria Trof fy Wyneb’, ‘Calon Lân’ a ‘Cwm Rhondda’ ac alawon gwerin Cymraeg megis ‘Mentra Gwen’ a ‘Claddu’r Mochyn Du’ yn y ffilm.

Cast a chriw golygu

Prif gast golygu

  • Walter Pigeon (Mr Gruffydd)
  • Maureen O'Hara (Angharad Morgan)
  • Donald Crisp (Mr Gwilym Morgan)
  • Roddy McDowall (Huw Morgan)
  • Anna Lee (Bronwyn)
  • John Loder (Ianto)
  • Sara Allgood (Mrs Beth Morgan)

Cast cefnogol golygu

  • Barry Fitzgerald (Cyfarthfa)
  • Patric Knowles (Ivor)
  • Morton Lowry (Mr Jonas)
  • Arthur Shields (Mr Parry)
  • Ann E. Todd (Ceinwen)
  • Frederick Worlock (Dr Richards)
  • Richard Fraser (Davy)
  • Evan S. Evans (Gwilym)
  • James Monks (Owen)
  • Rhys Williams (Dai Bando)
  • Lionel Pape (Evans)
  • Ethel Griffies (Mrs Nicholas)
  • Marten Lamont (Iestyn Evans)
  • Cantorion Cymreig (eu hunain)

Cydnabyddiaethau eraill golygu

  • Dylunio gwisgoedd – Gwen Wakeling
  • Adran goluro – Guy Pearce
  • Rheolwr cynhyrchu – Gene Bryant
  • Cyfarwyddwr cynorthwyol – Edward O'Fearna
  • Cyfarwyddwr Ail Uned – Wingate Smith
  • Effeithiau arbennig – Fred Sersen

Manylion technegol golygu

Tystysgrif ffilm: U

Fformat saethu: 35mm

Lliw: Du a Gwyn

Lleoliadau saethu: Adeiladwyd y pentref a’r lofa ffuglennol ar ransh Twentieth Century-Fox yn Nyffryn San Fernando, Califfornia. Ffilmiwyd hefyd ym Mynyddoedd Santa Monica ac ar Lwyfan 15 Stiwdios Twentieth century-Fox yn Los Angeles.

Gwobrau:

Gŵyl ffilmiau Blwyddyn Gwobr / enwebiad Derbynnydd
Academi Americanaidd Celfyddydau a Gwyddorau Lluniau Symudol (yr Oscars) 1941
Ffilm Orau
Cyfarwyddwr Gorau John Ford
Actor Cynorthwyol Gorau i Donald Crisp
Sinematograffi Du a Gwyn Gorau Arthur C. Miller
Cyfarwyddwyr Celf Gorau Richard Day
Nathan Juran
Thomas Little
Enwebiad am wobr y Sgript Orau Philip Dunne
Enwebiad am wobr yr Actores Gynorthwyol Sara Allgood
Enwebiad am wobr y Golygydd Orau James B. Clarke
Enwebiad am wobr y Trefniant Cerddorol Gorau Alfred Newman
Enwebiad am y gwaith sain Edmund H. Hansen (Pennaeth Uned Sain Twentieth-Century Fox)
New York Film Critics 1941 Gwobr Cyfarwyddwr John Ford
National Board of Review Magazine 1941 ail ar restr o ddeg ffilm orau 1941
Gwobrau Cymdeithas Beirniaid Ffilm yr Ariannin 1943 Y Condor Arian am y Ffilm Dramor Orau
Cofrestr Ffilm Cenedlaethol America 1990 Ychwanegwyd i'r gofrestr

Galeri golygu

Llyfryddiaeth golygu

Llyfrau golygu

  • David Berry, Wales and Cinema: the first hundred years (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1994)
  • Ronald L. Davis, John Ford – Hollywood’s Old Master (University Press of Oklahoma, 1995)
  • Philip Dunne, Take Two: A Life in Movies and Politics (New York, 1980)
  • Philip Dunne, How Green Was My Valley – The Screenplay (Santa Barbara, 1990)
  • Gwenno Ffrancon, Cyfaredd y Cysgodion: Delweddu Cymru a’i Phobl ar Ffilm 1935–51 (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2003)
  • Gwenno Ffrancon, 'Y Graith Las ar Gynfas Arian: Delweddu'r Glöwr Cymreig ar Ffilm' yn G.H. Jenkins (gol.), Cof Cenedl XIX: Ysgrifau ar Hanes Cymru (Gomer, Llandysul, 2004), tt. 164–92.
  • Dan Ford, The Unquiet Man – The Life of John Ford (London, 1979)
  • Tag Gallagher, John Ford – The Man and his Films (Los Angeles, 1986)
  • Mel Gussow, Zanuck: Don’t Say Yes Until I Finish Talking (London, 1971)
  • Leonard Mosley, Zanuck – The Rise and Fall of Hollywood‘s Last Tycoon (London, 1985)
  • Jeffrey Richards, Films and British National Identity (London, 1997)
  • Peter Stead, ‘Wales in the Movies’ yn Tony Curtis (gol.), Wales – The Imagined Nation (Penybont ar Ogwr, 1986)
  • Peter Stead, ‘Wales and Film’ yn T. Herbert a G. E. Jones (goln), Wales Between The Wars (Cardiff, 1988)
  • Kate Woodward, ‘Gwyrdroi a Gweddnewid: datblygiadau diweddar yn y portread o Gymru ar ffilm’, Cyfrwng: Cyfnodolyn Cyfryngau Cymru, 3 (2006)

Adolygiadau golygu

  • Bosley Crowther, ‘How Green Was My Valley’, New York Times, 29 Hydref 1941, t. 27.
  • Dienw, ‘How Green was My Valley’, Monthly Film Bulletin, Cyf. 9, rhif 98, 28 Chwefror 1942, t. 18.
  • ‘Welsh Film Arrives’, Western Mail, 19 Ebrill 1942, t. 2.
  • Richard Mallet, ‘At the Pictures’, Punch, 202, rhif 5280, 13 Mai 1942, t. 392.
  • Herman G. Weinberg, ‘News From New York’, Sight and Sound, 10, rhif 40, Gwanwyn 1942, t. 72.
  • Hesgin, ‘Ffilm Gymreig Enwog’, Y Faner, 100, rhif 34, 26 Awst 1942, t. 7.
  • Adolygiad Dilys Powell yn George Perry (gol.), Dilys Powell – The Golden Screen (London, 1989), tt. 30–1.
  • George J. Mitchell, ‘How Green Was My Valley – A Verdant Classic’, American Cinematographer, 9, rhif 72 (Medi 1991).

Erthyglau golygu

  • David Berry, ‘How green was my gall’, Radical Wales, 29 (1991), tt. 24–5.
  • Gwenno Ffrancon, ‘Glan. Gofalus. Gwallgof: Datblygiad y portread ar sgrîn o’r Fam Gymreig’, Cyfrwng: Cyfnodolyn Cyfryngau Cymru, 4 (GPC, Ebrill 2007), tt. 71–86.
  • Peter Stead, ‘How Green is My Valley Now?’, New Welsh Review, 4, rhif 3 (1991–2), tt. 4–9.

Gwefannau golygu

  Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o'r cofnod How Green Was My Valley ar yr Esboniadur, adnodd addysgiadol agored gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae gan y cofnod penodol hwnnw'r drwydded agored CC BY 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.