Hunaniaeth rhywedd

(Ailgyfeiriad o Hunaniaeth ryweddol)

Hunaniaeth unigolyn fel gwryw, benyw, neu'n anneuaidd yw hunaniaeth rhywedd (hefyd: hunaniaeth ryweddol a hunaniaeth o ran rhywedd).[1] Profiad personol yw sail hunaniaeth rhywedd, a all fod yn cyfateb, neu ddim yn cyfateb, i'r categori rhyw fiolegol y rhoddwyd nhw ynddo adeg eu geni.[2][3] I'r mwyafrif o bobl, mae rhywedd yn cyfateb i'w nodweddion rhyw corfforol.[4]

Symbol trawsryweddol
Symbol trawsryweddol
Trawsrywedd
Hunaniaethau
Androgynedd · Anneuaidd · Dau-Enaid · Dyn traws · Kathoey · Menyw draws · Trydydd rhywedd
Pynciau
Cwestiynu · Trawsrywioldeb
Agweddau clinigol a meddygol
Dysfforia rhywedd · Llawdriniaeth ailbennu rhyw · Therapi hormonau trawsryweddol
Agweddau cyfreithiol a chymdeithasol
Cydnabyddiaeth gyfreithiol · Symbolau · Trawsffobia · Deddf Cydnabod Rhywedd 2004
Rhestrau
Pobl
Categori
Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Ymddengys ym mhob cymdeithas gategorïau rhywedd sy'n gosod sylfaen i hunaniaeth gymdeithasol yr unigolyn mewn perthynas ag aelodau eraill y gymdeithas.[5] Yn y mwyafrif o gymdeithasau, mae rhaniad sylfaenol rhwng nodweddion rhywedd y gwryw a'r fenyw,[6] a glynai'r nifer fwyaf o bobl wrth y ddeuoliaeth rhywedd hon sy'n gorfodi cydymffurfiad yn ôl delfrydau gwrywdod a benyweidd-dra, yn nhermau rhyw fiolegol, hunaniaeth rhywedd, a mynegiant rhywedd fel ei gilydd.[7] Eto, mewn pob cymdeithas, mae ambell unigolyn nad yw'n uniaethu â'r rhywedd sy'n cyd-fynd â'i ryw fiolegol, neu agweddau ohono.[8] Ceir amryw hunaniaeth a disgrifiad ar gyfer y fath bobl, megis trawsrywedd ac anneuaidd, a chategorïau trydedd ryw mewn diwylliannau arbennig, er enghraifft y kathoey yng Ngwlad Tai a'r Dau-Enaid ymhlith brodorion Gogledd America.

Caiff hunaniaeth rhywedd graidd ei ffurfio gan amlaf erbyn tair blwydd oed.[9][10] Wedi'r oedran hwn, mae'n anodd iawn i hunaniaeth rhywedd newid,[9] a gall ymdrechion i'w hailbennu achosi dysfforia rhywedd.[11] Awgrymir bod ffactorau biolegol a chymdeithasol fel ei gilydd yn dylanwadu ar ffurfiad hunaniaeth rhywedd.

Cyfeiriadau golygu

  1. Geirfa, Stonewall Cymru (18 Hydref 2016). Adalwyd ar 18 Mai 2017.
  2. Sexual Orientation and Gender Expression in Social Work Practice, edited by Deana F. Morrow and Lori Messinger (2006, ISBN 0231501862), page 8: "Gender identity refers to an individual's personal sense of identity as masculine or feminine, or some combination thereof."
  3. Campaign, Human Rights. "Sexual Orientation and Gender Identity Definitions - Human Rights Campaign".
  4. (Saesneg) Gender identity. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 18 Mai 2017.
  5. V. M. Moghadam, Patriarchy and the politics of gender in modernising societies, in International Sociology, 1992: "All societies have gender systems."
  6. Carlson, Neil R.; Heth, C. Donald (2009), "Sensation", Psychology: the science of behaviour (4th ed.), Toronto, Canada: Pearson, pp. 140–141, ISBN 9780205645244.
  7. Jack David Eller, Culture and Diversity in the United States (2015, ISBN 1317575784), page 137: "most Western societies, including the United States, traditionally operate with a binary notion of sex/gender"
  8. For example, "transvestites [who do not identify with the dress assigned to their sex] existed in almost all societies." (G. O. MacKenzie, Transgender Nation (1994, ISBN 0879725966), page 43.) — "There are records of males and females crossing over throughout history and in virtually every culture. It is simply a naturally occurring part of all societies." (Charles Zastrow, Introduction to Social Work and Social Welfare: Empowering People (2013, ISBN 128554580X), page 234, quoting the North Alabama Gender Center.)
  9. 9.0 9.1 Pamela J. Kalbfleisch; Michael J. Cody (1995). Gender, power, and communication in human relationships. Psychology Press. tt. 366 pages. ISBN 0805814043. Cyrchwyd June 3, 2011.
  10. Ann M. Gallagher; James C. Kaufman (2005). Gender differences in mathematics: An integrative psychological approach. Cambridge University Press. ISBN 0-521-82605-5.
  11. Boles, Jacqueline, and Tatro, Charlotte, Androgyny (subsection Gender-identity formation), in Men in Transition: Theory and Therapy, 2013, edited by Kenneth Solomon, tt. 101-102.