Mae hunlun (hefyd hun-lun a selffi; Saesneg: selfie) yn ffotograff hunanbortread, fel arfer yn cael ei dynnu ar ffôn symudol. Yn aml iawn mae hunluniau yn cael eu rhannu ar rwydweithiau cymdeithasol ar-lein fel Instagram, Facebook, a Tumblr. Maent yn anffurfiol ac yn aml yn cael eu tynnu gyda'r camera yn cael ei ddal hyd braich.

Hunlun o macaque oedd wedi codi'r camera ac wedi tynnu ffoto ohono'i hun.
Yr hunlun cyntaf, mae'n debyg; fe'i gymerwyd gan Robert Cornelius yn 1839.

Hanes golygu

Creodd yr arloeswr ffotograffig Americaniad Robert Cornelius lun daguerreotype ohono'i hun ym 1839 sef un o'r ffotograffau cyntaf o berson. Oherwydd fod y broses mor araf, roedd yn gallu tynnu’r cap oddi ar y lens, rhedeg o flaen y camera am funud neu fwy, cyn dychwelyd i roi'r cap y lens yn ôl. Ysgrifennodd ar gefn y llun The first light picture ever taken. 1839.[1][2]

Ym 1900 dechreuodd gwmni Kodak werthu'r camera bocs ysgafn cyntaf y 'Kodak Brownie', ac fe ddaeth yr arferiad o dynnu hunan bortreadau'n boblogaidd. Fel arfer rhoddwyd y camera o flaen drych.[3]

Mae'r syniad o lwytho lluniau hunanbortread o grwpiau i'r we, gan ddefnyddio camera ffilm dafladwy yn hytrach na chamera digidol neu ffôn symudol, yn dyddio yn ôl i 2001 pan grëwyd gwefan gan grŵp o bobl yn Awstralia.[4][5][6]

Yr enw Selfie / Hunlun golygu

Mae'r defnydd cynharach o'r gair selfie yn cael ei olrhain yn ôl i 2002. Ymddangosodd yn gyntaf ar wefan Awstraliaid (ABC Online) ar 13 Medi 2002.[7]

Erbyn 2013, roedd y gair "selfie" wedi dod yn ddigon poblogiadd i'w gynnwys yn y fersiwn ddigidol o'r Oxford English Dictionary.[8]

Roedd y gair Cymraeg "hunlun" (neu "hun-lun") wedi ymddangos erbyn 2013[9] ymlaen.[10]

Troedlun golygu

Yn 2015 dechreuwyd gwerthu esgidiau pwrpasol gyda lle arbennig ar gyfer y ffôn. [11]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Robert Cornelius' self-portrait: The First Ever "Selfie" (1839)". The Public Domain Review. Open Knowledge Foundation. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-02-11. Cyrchwyd 18 December 2013.
  2. "Robert Cornelius, self-portrait; believed to be the earliest extant American portrait photo". Prints & Photographs Online Catalog. Library of Congress. Cyrchwyd 18 Rhagfyr 2013. Italic or bold markup not allowed in: |work= (help)
  3. "Beginners Guide To Understanding And Using A Brownie Box Camera".
  4. "bogon.8m.com SelfPix". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2004-04-13. Cyrchwyd 2014-06-27.
  5. "bogon.8m.com Out & About". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2001-10-11. Cyrchwyd 2014-06-27.
  6. "bogon.8m.com Bogons". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2001-09-28. Cyrchwyd 2014-06-27.
  7. "Oxford Dictionaries Word of the Year 2013 is..." OxfordWords blog. Oxford Dictionaries. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-12-01. Cyrchwyd 30 Tachwedd 2013.
  8. Coulthard, Charissa (7 June 2013). "Self-portraits and social media: The rise of the 'selfie'". BBC News online. Cyrchwyd 6 April 2013.
  9. https://twitter.com/siantirdu/status/372122809872293888
  10. "Etholiad Ewrop: 'Na' i dynnu hun-lun wrth bleidleisio". Golwg360. Cylchgrawn Golwg. 22 Mai 2014. Cyrchwyd 27 Mehefin 2014.
  11. "Hundreds of people have been asking where they can buy the Selfie Shoes...". Selfie Shoes. Cheryl Matson. 30 Mai 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-07-11. Cyrchwyd 1 April 2015. Text "Miz Mooz" ignored (help)