Hwyaden addfain

(Ailgyfeiriad o Hwyaden Addfain)
Hwyaden addfain
Ceiliog
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Anseriformes
Teulu: Anatidae
Genws: Anas
Rhywogaeth: A. querquedula
Enw deuenwol
Anas querquedula
Linnaeus, 1758
Spatula querquedula

Mae'r Hwyaden addfain (Anas querquedula) yn un o deulu'r hwyaid. Mae'n nythu trwy rannau helaeth o Ewrop a gorllewin Asia, ond yn wahanol i'r rhan fwyaf o'r hwyaid mae'r boblogaeth i gyd yn mudo i Affrica yn y gaeaf. Mae'n nythu mewn glaswellt gerllaw corsydd neu lynnoedd.

Gellir adnabod y ceiliog yn hawdd; mae ganddo ben a bron frown a llinell wen amlwg iawn uwchben y llygad, gyda'r gweddill o'r corff yn llwyd. Mae'r iâr yn anoddach ei hadnabod, gan ei bod yn debyg iawn i iâr Corhwyaden, ond mae'r patrwm ar yr wyneb yn wahanol.

Nid yw'r Hwyaden addfain yn aderyn cyffredin yng Nghymru. Mae nifer fychan o barau yn nythu, ac eraill yn cael eu gweld yn y gwanwyn neu'r hydref wrth iddynt basio trwodd.