Hwyaden frongoch

rhywogaeth o adar
(Ailgyfeiriad o Hwyaden Frongoch)
Hwyaden frongoch
Ceiliog
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Anseriformes
Teulu: Anatidae
Genws: Mergus
Rhywogaeth: M. serrator
Enw deuenwol
Mergus serrator
Linnaeus, 1758
Mergus serrator

Mae'r Hwyaden frongoch (Mergus serrator) yn hwyaden ganolig o ran maint sy'n eithaf cyffredin ar afonydd a llynnoedd ar draws Ewrop, gogledd Asia a Gogledd America.

Mae'r Hwyaden frongoch yn aderyn mudol yn y rhannau lle ceir gaeafau oer ond yn aros trwy'r flwyddyn yng ngorllewin Ewrop. Gellir adnabod y ceiliog yn hawdd; mae ganddo ben du gyda gwawr werdd, gwddf gwyn a bron gochaidd, cefn du a gwyn ar y bol. Mae gan yr iâr ben browngoch a'r gweddill o'r plu yn llwyd.

Eu prif fwyd yw pysgod bychain, sy'n cael eu dal trwy nofio o dan y dŵr, er eu bod hefyd yn bwyta llyffantod, pryfed neu unrhyw anifeiliaid bychain eraill sydd i'w cael yn y dŵr.

Mae'r Hwyden frongoch yn nythu ar lawr ar lan afonydd neu ar ynysoedd bychain mewn afonydd. Tu allan i'r tymor nythu maent yn casglu'n heidiau, yn aml mewn bae cysgodol ar y môr. Mae'n aderyn gweddol gyffredin ar afonydd Cymru yn yr haf.