Hwyaden goch

rhywogaeth o adar
(Ailgyfeiriad o Hwyaden Goch)
Hwyaden Goch
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Anseriformes
Teulu: Anatidae
Genws: Oxyura
Rhywogaeth: O. jamaicensis
Enw deuenwol
Oxyura jamaicensis
(Gmelin, 1789)
Oxyura jamaicensis

Mae'r Hwyaden Goch (Oxyura jamaicensis) yn hwyaden weddol fychan, yn wreiddiol o gyfandir America. Mae tri is-rywogaeth, sydd weithiau yn cael eu hystyried yn rywogaethau ar wahan:

  • O. j. jamaicensis Gogledd America
  • O. j. andina Colombia
  • O. j. ferruginea Yr Andes

Mae'r ceiliog yn hawdd ei adnabod ac yn aderyn trawiadol iawn, gyda'r corff yn goch, wyneb gwyn a chap du ar y pen, a pig glas. Mae'r iâr yn llwydfrown ond hefyd gyda pen du. Maent yn nythu ger corsydd, llynnoedd ac afonydd, lle mae digon o dyfiant ger y dŵr. Fel rheol mae'n aderyn mudol, yn symud tua'r de yn y gaeaf. Eu prif fwyd yw pryfed a phlanhigion sy'n byw yn y dŵr, a gallant blymio i'w casglu.

Mae poblogaeth sylweddol o'r hwyaden yma wedi datblygu ym Mhrydain wedi i adar ddianc o gasgliadau. Oherwydd fod yr hwyaid yma yn symud tua'r de ac yn medru paru gyda'r Hwyaden Benwyn Oxyura leucocephala mewn gwledydd fel Spaen, lle mae niferoedd ye Hwyaden Benwyn yn isel iawn, mae ymgais ar droed i geisio rheoli nifer yr Hwyaden Goch neu hyd yn oed i'w difa'n llwyr o Brydain.

Yng Nghymru bu poblogaeth sylweddol iawn ar Ynys Môn gyda niferoedd llai ym mhobman arall. Dewiswyd Môn fel un o'r ardaloedd i arbrofi gyda lleihau'r niferoedd, a bu gostyngiad sylweddol yn y boblogaeth. Erbyn hyn mae'r niferoedd yma wedi dechrau cynyddu eto.