Hyder Consulting

Cwmni ymgynghori a dylunio rhyngwladol

Cwmni ymgynghori a dylunio rhyngwladol yw Hyder Consulting, sy'n arbenigo mewn materion isadeiledd, eiddo ac amgylcheddol. Mae'n cyflogi 5,000 o bobl yn fyd eang ac mae wedi ei restru ar Gyfnewidfa Stoc Llundain ers mis Hydref 2002.

Hyder Consulting
Math
busnes
ISINGB0032072174
Sefydlwyd1993
SefydlyddRalph Freeman
Daeth i ben2014
PencadlysLlundain

Hanes golygu

Sefydlwyd Freeman Fox & Partners ym 1857, ac aethont ymlaen i adeiladu enw da ym maes pontydd a ffyrdd yn yr 20g. Syr Ralph Freeman oedd y sefydlydd, ac ymunodd Syr Gilbert Roberts gydag ef yn y cwmni yn fuan wedyn, roedd y cwmni yn gyfrifol am gynlluniau dylunio megis Pont Victoria Falls (1905), Pont Porthladd Sydney (1932), Pont Ffordd Forth (1964), Pont Hafren (1966), Pont Bosporus (1974), Pont Humber (1981) a Phont Fatih Sultan Mehmet (1988). Mae cynlluniau eraill o nod yn cynnwys telesgop radio Parkes (1961) a Phont Porth Gorllewin Melbourne (1978) a ddisgynodd ym 1970 gan ladd 35 o weithwyr, cafodd y cwmni ei ganfod yn rhannol gyfrifol am hyn.

Yn ystod yr un cyfnod, adeiladodd cwmni John Taylor & Sons enw da ym maes perianneg dŵr a gwastraff dŵr gan weithio ar gynlluniau megis prosiect cyflenwad dŵr Shanghai a phrosiectau dŵr a charffosiaeth o bwys yn Leningrad (a elwir yn St Petersburg erbyn hyn) a Tehran.

Unodd y ddau gwmni ym 1987 gan ffurfio Acer Consultants. Cyfunwyd nifer o gwmnïau llai dros y blynyddoedd, gan adeiladu strwythr rhyngwladol o ymgynghorwyr peirianneg sifil.

Ym 1993, daeth y cwmni hwn, ynghyd â chwmni ymgynghori Wallace Evans Ltd, yn eiddo i Ddŵr Cymru a newidiwyd yr enw i Hyder Consulting ym 1996. Pan brynwyd Hyder Consulting gan Western Power Distribution, fe ddechreuodd uwch reolwyr Hyder Consulting brynu allan y cwmni eu hunain, a chwblhawyd hyn ym mis Ionawr 2001. Cafodd y cwmni ei restru ar Gyfnewidfa Stoc Llundain ym mis Hydref 2002. Erbyn hyn maent yn cyflogi hyd at 5,000 o staff yn fyd eang, ac mae'n datblygu isadeiledd yn gweithredu ym meysydd peirianneg sifil, gwasanaethau, yr amgylchedd, adeiladau, geo-dechnoleg a thrafnidiaeth.

Prynwyd Hyder Consulting gan gwmni Arcadis o'r Iseldiroedd am £296 miliwn yn Hydref 2014[1]. Cafwyd gwared ar frand Hyder yn 2015.[2]

Dolenni allanol golygu

  1. (Saesneg) Arcadis completes £296m Hyder acquisition. building.co.uk (17 Hydref 2014). Adalwyd ar 24 Mai 2016.
  2. (Saesneg) http://www.thenational.ae/business/property/engineering-consultant-arcadis-to-do-away-with-hyder-and-other-brands. thenational.ae (21 Medi 2015). Adalwyd ar 24 Mai 2016.