Duwies Iechyd ym mytholeg Roeg yw Hygieia. Roedd hi'n ferch i'r meddyg dwyfol Asclepius (Aesculapius) ac yn cael ei haddoli gydag ef fel rheol. Mewn gweithiau celf fe'i dangosir wrth ochr ei thad yn rhith morwyn glên sy'n rhoi diod i'w sarff. Roedd y Rhufeiniaid yn ei huniaethu â Salus.[1]

Penddelw Hygieia (yn ôl pob tebyg) o ardal Arcadia, Gwlad Groeg. Amgueddfa Archaeolegol Genedlaethol Athen.

Gweler hefyd golygu

  • 10 Hygiea, asteroid a enwir ar ôl y dduwies.

Cyfeiriadau golygu

  1. Oskar Seyffert, A Dictionary of Classical Antiquities (Llundain, 1902; sawl argraffiad ar ôl hynny).
  Eginyn erthygl sydd uchod am fytholeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato