iPad

llinell o gyfrifiaduron tabled a ddatblygwyd gan Apple

Dyfais, teclyn neu 'lechen' gyfrifiadurol a grëwyd gan Apple Inc. yw'r iPad. Cafodd yr iPad ei farchnata ar gyfer chwarae cerddoriaeth, darllen e-lyfrau, gwylio fideos, pori'r we, chwarae gemau, ac er mwyn creu a darllen ebyst. Gwerthwyd 2 filiwn o'r teclyn hwn yn y ddau fis cyntaf.[1]

Esiampl o iPad

Fel arfer mae'r iPad yn cael ei ddefnyddio i chwilio'r rhyngrwyd. Gellir chwarae gemau fel Minecraft neu Candy Crush arno neu dynnu lluniau. Gellir prynnu cas i'w addurno a'i gadw'n saff. Caiff hefyd ei ddefnyddio i anfon negeseuon drwy e-bost, Facebook, Twitter ac iMessage neu i siarad wyneb i wyneb ag unrhyw un drwy apiau fel Face Time neu Skype. Gellir hefyd ei ddefnyddio i wrando ar gerddoriaeth neu wylio ffilm, neu fel llyfr coginio i helpu coginio bwyd. Gellir lawrlwytho elyfrau a recordio fideo hefyd neu ar gyfer Instagram, Facebook neu Twitter. Yn Hydref 2013 roedd y stordy aps App Store yn cynnwys dros 475,000 o aps gan Apple a chwmniau eraill.[2]

Crewyd yr iPad gan apple inc a grewyd gan Steve Jobs. Mae'r iPad yn ysgafn i'w gario - gellir cymharu ei bwysau i lyfr ond mae'r iPad yn gallu storio llawer o elyfrau arno!

Mae iPad 2 yn rhagori ar ei ragflaenydd (iPad Air) gan fod ei gof yn llawer mwy ac mae'r siap yn wahanol - ochrau sgwâr yn hytrach na rhai crwm.

Gwerthwyd 15 miliwn o iPads First Generation hyd at 2015.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. http://www.apple.com/pr/library/2010/05/31ipad.html
  2. "Apple – iPhone 5 – The best of everything. Built right in.". Apple Inc. Cyrchwyd 1 Hydref 2012.
  3. "The iPad's 5th anniversary: a timeline of Apple's category-defining tablet". The Verge. Cyrchwyd 17 Ebrill 2015.

Gweler hefyd golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am dechnoleg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato