Iaith synthetig sy'n llunio geiriau drwy ychwanegu elfennau morffolegol (morffemau) at ei gilydd yw iaith ddodiadol. Mae pob un o'r morffemau yn mynegi un ystyr neu nodwedd ramedegol. Mae enghreifftiau o ieithoedd dodiadol yn cynnwys y Dyrceg a'r Hwngareg. Mae'r system hon o lynu morffemau at ei gilydd yn cyferbynnu'n fawr gydag ieithoedd ymasiadol lle mae morffemau yn ymasu i mewn i'w gilydd.

Gwelir system ddodiadol mewn ffurfdroadau enwol yn y Dyrceg. Dyma ffurfiau'r enw adam 'dyn':

unigollluosog
goddrycholadamadam-lar
genidoladam-ınadam-lar-ın
derbynioladam-aadam-lar-a
gwrthrycholadam-ıadamları

Mae'n hawdd gweld bod pob morff yn cyfleu un ystyr neu nodwedd ramadegol. Mae adam yn golygu 'dyn'; mae -lar- yn cyfleu'r lluosog; -ın yn cyfleu'r cyflwr genidol; -a y cyflwr derbyniol; a -ı y cyflwr gwrthrychol. Does dim morff felly sy'n cyfuno dwy neu fwy o'r ystyron hyn. Mae'r system hon yn cyferbynnu'n gryf â'r hyn a geir mewn ieithoedd ymasiadol megis Lladin neu Rwsieg lle mae morffemau yn ymasu. Yn wahanol i ieithoedd ymasiadol, mae ieithoedd doddiadol yn dueddol o fod yn rheolaidd oherwydd natur un-ystyr y dodiadau, hynny yw, ni effeithir gwreiddyn y gair gan y dodiad, ac ni effeithir y dodiad gan wreiddyn y gair ac felly gellir ymwahanu'r morffemau'n hawdd.

Nid yw'r Gymraeg yn arddangos llawer o nodweddion dodiadol, ond gwelir agweddau o system dodiadol mewn ffurfiau megion dynionach neu petheuach, sy'n cynnwys tair morffem sy'n hawdd i'w rhannu oddi wrth ei gilydd, y bôn dyn, y ffurfdroad lluosog -ion neu -au a'r olddodiad dirmygus -ach.

Gweler hefyd golygu