Iaith â statws cyfreithiol unigryw mewn cwmni rhyngwladol, cymdeithas, gwlad neu gorff arall fel ei phrif fodd o gyfathrebu yw iaith weithredol. Prif iaith cyfathrebu bob dydd ydyw, oherwydd bod gan y gymdeithas aelodau sy'n dod o gefndiroedd ieithyddol gwahanol, fel arfer.

Mae gan y rhan fwyaf o gymdeithasau rhyngwladol ieithoedd gweithredol, a gallai'r iaith hon fod yn iaith swyddogol arni neu beidio.

Ieithoedd gweithredol y CU golygu

 
Chwe iaith weithredol sydd gan Gyngor Diogelwch y CU.

Yn wreiddiol, Ffrangeg a Saesneg oedd ieithoedd gweithredol y Cenhedloedd Unedig. Yn nes ymlaen, fe ychwanegwyd Arabeg, Rwsieg, Sbaeneg a Tsieineeg fel ieithoedd gweithredol yn y Cynulliad Cyffredinol a'r Cyngor Economaidd a Chymdeithasol. Arabeg, Ffrangeg, Rwsieg, Saesneg, Sbaeneg a Tsieineeg yw ieithoedd gweithredol y Cyngor Diogelwch.

Enghreifftiau mewn cymdeithasau rhyngwladol golygu

Ffrangeg a Saesneg golygu

Dwy iaith weithredol sydd gan y Llys Troseddol Rhyngwladol[1]: Ffrangeg a Saesneg, felly mae'n ofynnol, yn answyddogol, i bob Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig fedru'r ddwy'n rhugl. Mae Ffrangeg a Saesneg yn ieithoedd weithredol ar Gyngor Ewrop a NATO hefyd.

Grwpiau eraill â dwy iaith weithredol golygu

Ffrangeg, Saesneg a Sbaeneg golygu

Mae Cyfundrefn Masnach y Byd, yr Undeb Telathrebu Rhyngwladol, y Gyfundrefn Lafur Ryngwladol, Cytundeb Masnach Deg Gogledd America ac Ardal Masnach Deg yr Amerig yn defnyddio tair iaith weithredol: Ffrangeg, Saesneg a Sbaeneg.

Grwpiau eraill â thair neu fwy o ieithoedd gweithredol golygu

Cyfeiriadau golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am ieithyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.