Prif weinidog Rhodesia (yn awr Simbabwe) oedd Ian Douglas Smith (8 Ebrill 191920 Tachwedd 2007),

Ian Smith
Ganwyd8 Ebrill 1919 Edit this on Wikidata
Shurugwi Edit this on Wikidata
Bu farw20 Tachwedd 2007 Edit this on Wikidata
o clefyd serebro-fasgwlaidd Edit this on Wikidata
Tref y Penrhyn Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Rhodesia, Simbabwe Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Rhodes
  • Chaplin High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, ffermwr Edit this on Wikidata
SwyddPrif Weinidog Rhodesia, Member of the National Assembly of Zimbabwe Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolSouthern Rhodesia Liberal Party, United Federal Party, Rhodesian Front, Republican Front Edit this on Wikidata
PriodJanet Smith Edit this on Wikidata
PlantAlec Smith Edit this on Wikidata
PerthnasauAlex T. Wolf Edit this on Wikidata
llofnod
Ian Smith (1964).

Ganed Smith yn Selukwe, De Rhodesia. Bu yn Brif Weinidog gwladwriaeth Brydeinig De Rhodesia o 13 Ebrill 1964 hyd 11 Tachwedd 1965, pan gyhoeddodd y wlad ei hun yn annibynnol heb gytundeb Prydain. O'r dyddiad hwnnw hyd 1 Mehefin 1979 roedd yn Brif Weinidog Rhodesia.

Dim ond y boblogaeth wyn oedd yn cael pleidleisio yn yr etholiadau. Rhwng 1971 a 1979 bu llywodraeth Smith yn ymladd yn erbyn cenedlaetholwyr duon, a daeth hefyd dan bwysau economaidd gan y gorllewin, nad oedd yn derbyn annibyniaeth Rhodesia. Yn 1979 daeth y ddwy ochr i gytundeb, ac ymddiswyddodd Smith fel Prif Weinidog. Olynwyd ef gan lywodraeth yn cynnwys y duon a'r gwynion, dan arweiniad Abel Muzorewa o'r UANC. Yn etholiad 1980 enillodd ZANU fwyafrif a daeth Robert Mugabe yn Brif Weinidog. Parhaodd Smith yn aelod o senedd Simbabwe hyd 1987. Bu farw yn Ne Affrica.