Iapetws (lloeren)

Iapetws yw'r ail ar bymtheg o loerennau Sadwrn a wyddys:

  • Cylchdro: 3,561,300 km oddi wrth Sadwrn
  • Tryfesur: 1460 km
  • Cynhwysedd: 1.88e21 kg
Iapetws
Enghraifft o'r canlynollleuad o'r blaned Sadwrn, lleuad arferol Edit this on Wikidata
Màs1.8055 ±0.0002 Edit this on Wikidata
Dyddiad darganfod25 Hydref 1671 Edit this on Wikidata
Echreiddiad orbital0.0286125 Edit this on Wikidata
Radiws734.5 cilometr Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Iapetws

Titan oedd Iapetws ym mytholeg Roeg, mab Wranws a thad Promethëws ac Atlas. Darganfuwyd y lloeren gan Cassini ym 1671. Gyda'i dwysedd o ddim ond 1.1 mae'n rhaid fod Iapetws wedi ei chyfansoddi bron yn gyfangwbl gan iâ dŵr.

Mae hemisfferau arweiniol a llusgol Iapetws yn wahanol iawn. Mae albedo'r rhan fwyaf o'i hemisffer arweiniol yn .04, bron yn ddu, ond mae albedo'r hemisffer llusgol yn .6, mor ddisglair ag Ewropa. Mae hemisffer arweiniol Iapetws wedi ei orchuddio gan ryw ddeunydd tywyll sydd yn gymharol ifanc. Ar y ffin rhwng y ddau hemisffer gellir gweld craterau lle ma un ochr wedi ei gorchuddio ond gweddill y crater yn rhydd.

Mae gan Iapetws grib sydd yn 13 km yn uwch na'r tir o'i amgylch ac sydd yn ymestyn tua 1300 km, bron yn gyfochrog â chyhydedd y lloeren.

Ac eithrio Iapetws a Phoebe mae lloerennau Sadwrn i gyd yn cylchio o fewn plaen cyhydedd Sadwrn. Mae Iapetws yn gogwyddo bron yn 15 gradd.