Ieithoedd Affrica

Ieithoedd golygu

 
Map yn dangos dosbarthiad teuluoedd iaith Affricanaidd a rhai o brif ieithoedd Affrica.

Mae ieithoedd Affrica ynh cynnwys nifer fawr o ieithoedd brodorol ac hefyd nifer o ieithoedd Ewropeaidd yn deillio o'r cyfnod trefedifaethol. Yn ôl y rhan fwyaf o amcangyfrifon, mae gan Affrica dros fil o ieithoedd. Ceir pedwar prif deulu iaith sy'n frodorol i Affrica.

  • Mae'r ieithoedd Affro-Asiatig yn deulu iaith o tua 240 o ieithoedd a 285 miliwn o bobl yng Ngogledd Affrica, Dwyrain Affrica, y Sahel, a De Orllewin Asia. Arabeg yw'r iaith gyda mwyaf o siaradwyr, a hi yw'r iaith swyddogol ar draws Gogledd Affrica.
  • Mae'r ieithoedd Nilo-Saharaidd yn cynnwys dros gant o ieithoedd siaradwyd gan 30 miliwn o bobl. Siaradir ieithoedd Nilo-Saharaidd yn bennaf yn Tsiad, Swdan, Ethiopia, Wganda, Cenia, a gogledd Tansanïa.
  • Siaradir ieithoedd Niger-Congo dros y rhan fwyaf o'r cyfandir i'r de o'r Sahara. Mae siwr o fod yn deulu iaith fwyaf y byd yn nhermau ieithoedd gwahanol. Mae nifer sylweddol ohonynt yn ieithoedd Bantu.
  • Mae'r teulu iaith Khoisan yn cynnwys tua 50 o ieithoedd siaradir gan 120 000 o bobl yn Ne Affrica. Mae rhan fwyaf o'r ieithoedd Khoisan mewn perygl. Ystyrir y bobl Khoikhoi a San yn drigolion gwreiddiol y rhan yma o Affrica.

Ers y cyfnod trefedigaethol, siaredir ieithoedd Indo-Ewropeaidd mewn llawer rhan o Affrica, yn arbennig Afrikaans yn Ne Affrica ac ieithoedd megis Saesneg, Ffrangeg a Portiwgaleg mewn nifer o wledydd, lle maent yn aml yn ieithoedd swyddogol.