Ieithoedd a siaredir yng nghanolbarth, dwyrain a de Affrica yw'r ieithoedd Bantu. Maent yn perthyn i deulu'r ieithoedd Niger-Congo. Amcangyfrifir fod 513 o ieithoedd Bantu i gyd ond gall nifer o'r rhain fod yn gontiniwm tafodiaith gyda sawl "iaith" yn ddealladwy i'r hyn a elwir yn iaith arall am resymau hunaniaeth llwyth ac orgraff a safonni gan genhadon ac awdurdodau tramor o wahanol wledydd neu grefydd. Y fwyaf adnabyddus o'r rhain yw Swahili. Ceir hefyd teuluoedd iaith megis yr Ieithoedd Nguni sy'n gontiniwm tafodiaith ac yn cwmpasu Swlŵeg, isiXhosa, siSwati ac "ieithoedd" eraill.

Dosbarthiad yr Ieithoedd Bantu (mewn oren) a ieithoedd Niger-Congo eraill

Ieithoedd Bantu golygu

Dyma rai o'r ieithoedd Bantu:

 
Dosbarthiad yr ieithoedd Bantw