Ieithoedd Malayo-Polynesaidd

Is-deulu o'r ieithoedd Awstronesaidd yw'r ieithoedd Malayo-Polynesaidd. Yr is-deulu yma yw'r mwyaf o'r deuddeg is-deulu o ieithoedd Awstronesaidd. Mae'n cynnwys 1248 o'r 1268 iaith yn y teulu.

Siaredir yr ieithoedd Malayo-Polynesaidd yn ne-ddwyrain Asia ac yn ynysoedd y Cefnfor Tawel yn bennaf, ar draws ardal yn ymestyn o Madagasgar i Ynys y Pasg. Yr iaith sydd a mwyaf o siaradwyr yw Indoneseg, er bod llawer o'i siaradwyr yn ei siarad fel ail iaith. Mae'n debyg mai Jafaneg sydd a'r nifer fwyaf o siaradwyr yn ei siarad fel mamiaith.

Dosbarthiad golygu