Model a cyflwynydd teledu Cymreig ydy Imogen Mary Thomas (ganed 29 Tachwedd 1982). Daeth yn enwog yn 2003, ar ôl iddi ddwyn y teitl Miss Cymru. Cynyddodd ei henwogrwydd yn 2006 pan ymddangosodd yn y gyfres deledu realiti Big Brother.

Imogen Thomas
Ganwyd29 Tachwedd 1982, 27 Tachwedd 1982 Edit this on Wikidata
Gorseinon Edit this on Wikidata
Man preswylLlundain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethmodel Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.imogenthomasofficial.com/ Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Ei bywyd cynnar golygu

Fe'i ganwyd i Charles Thomas, swyddog lles addysgol, a'i wraig Janette yn Ngorseinon, ger Abertawe. Gwahanodd y ddau pan oedd Imogen yn ddwy oed, ac ail-briododd ei mam pan oedd yn chwech. Fe'i magwyd gan ei mam a'i llysdad yn Llanelli.

Gwaith teledu golygu

Fel nifer o'r cystadleuwyr eraill, cymerodd Imogen ran mewn nifer o raglenni teledu a oedd yn gysylltiedig i Big Brother, gan gynnwys BBLB a Big Brother's Big Mouth. Roedd hefyd wedi cyd-gyflwyno T4.

Am ei bod yn siarad Cymraeg, mae hefyd wedi ymddangos ar nifer o raglenni S4C, gan gynnwys Uned 5, Wedi 3, Wedi 7, Jonathan Show a Bwrw Bar. Roedd ganddi ei sioe ei hun gyda Glyn o'r rhaglen Big Brother hefyd o'r enw Glyn and Imogen: A Year On. Cafodd rôl cameo hefyd yn yr opera sebon Cymreig Pobol y Cwm.

Ei bywyd personol golygu

Cafodd Thomas berthynas gyda'r model Americanaidd Tyson Beckford, a gyfarfyddodd am y tro cyntaf yn y Sanderson Hotel.[1] Ers ymddangos ar Big Brother mae hefyd wedi canlyn Russell Brand,[2] chwaraewr polo Jamie Morrisson,[3] a'r pêldroedwyr Matthew Collins o Ddinas Abertawe, a Jermain Defoe o Tottenham Hotspur.[4]

Ym mis Ebrill 2011, cyhoeddodd papur newydd The Sun fod Imogen wedi bod yn cael perthynas gyda phêldroediwr di-enw priod o Uwchgynghrair Lloegr.[5] Dyfarnwyd uwch-waharddeb, a alwyd CTB v News Group Newspapers [6], yn Uchel Lys Cyfiawnder Cymru a Lloegr gan Mr Ustus Eady, a rwystrai'r pêldroediwr rhag cael ei enwi yng nghyfryngau'r DU[7]. O ganlyniad, trodd Imogen at y swyddog cysylltiadau cyhoeddus Max Clifford, a ddywedodd “Imogen never had any desire nor intention to sell her story, however if she had and was able to name the footballer she could easily command £250,000".[8][9] Fodd bynnag, yn Nhŷ'r Cyffredin ar 23 Mai datgelodd yr Aelod Seneddol John Hemming mai Ryan Giggs oedd y pêldroediwr gan ddefnyddio braint seneddol.[10]

Cyfeiriadau golygu