Duw grymus a gysylltir â Rhyfel a'r Tywydd yn y Veda ac sydd hefyd yn Frenin y duwiau ac Arglwydd y Nefoedd yn ei balas yn Svargaloka yn Hindŵaeth yw Indra (Sansgrit: इन्द्र neu इंद्र, Indra). Ceir y cyfeiriadau cynharaf ato yn y Rig Veda hynafol. Yno mae'n cael ei bortreadu fel cymeriad arwrol sy'n brwydro ar ran y duwiau ond sy'n hoff hefyd o garu. Ym mytholeg Hindŵaeth mae'n frenin ar y devas, ond lleihaodd ei addoliad a'i bwysigrwydd yn ddiweddarach yn dilyn cyfnod y testunau Purana gyda'r cynnydd ym mhwysigrwydd y Trimurti.

Indra
Delwedd:Indra deva.jpg, SAHASRAKHSYA AHALYA.jpg
Enghraifft o'r canlynolduw dŵr, duw taranau, duw rhyfel, Hindu deity, Rigvedic deities, Buddhist deity Edit this on Wikidata
Enw brodorolइन्द्र Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Indra gyda Sachi yn marchogaeth Airavata

Ei chymar dwyfol yw'r dduwies Sachi. Fe'i portreadir yn aml yn marchogaeth yr eliffant Airavata.

Eginyn erthygl sydd uchod am Hindŵaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.