Dinas ym Moroco yw Inezgane, ar gyrion Agadir yn nyffryn Souss yng ngorllewin canolbarth y wlad. Fe'i lleolir fymryn i'r de o Agadir ger arfordir Cefnfor Iwerydd ac i bob pwrpas mae'n faesdref o'r ddinas honno. Inezgane yw prifddinas weinyddol ardal (préfecture) Inezgane-Aït Melloul, yn rhanbarth Souss-Massa-Draâ. Poblogaeth: 112,753 (2004).

Inezgane
Mathurban commune of Morocco Edit this on Wikidata
Poblogaeth130,333 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirInezgane-Aït Melloul Prefecture Edit this on Wikidata
GwladBaner Moroco Moroco
Uwch y môr25 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau30.3658°N 9.5381°W Edit this on Wikidata
Map

Mae'r ddinas yn adnabyddus fel canolfan fasnachol. Cynhelir nifer o farchnadoedd yno sy'n ganolog i'r economi lleol : souk tleta (dydd Mawrth), marchnad gyffredin (beunyddiol), y farchnad ffrwythau sy'n denu masnachwyr o bob rhan o dde Moroco, y souk lledr, y souk gwartheg, a'r souk grawnfwyd.

Mae Inezgane yn un o ganolfannau mawr yr Imazighen (Berberiaid de Moroco). Bu'n ganolfan weinyddol yng ngyfnod rheolaeth Ffrainc ar y wlad ac yn sedd i lywodraethwr lleol (caïd) a apwyntid ganddynt. Yma hefyd roedd canolfan leol llwyth Berber yr Aksimen (Arabeg: Ksima).

Eginyn erthygl sydd uchod am Foroco. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato