Inis Mór neu Árainn Mhór (Saesneg: Inishmore, yw'r fwyaf o Ynysoedd Arann ym Mae Galway, Gweriniaeth Iwerddon. Mae gan yr ynys arwynebedd o 31 km² (12 mi²).

Inis Mór
Mathynys Edit this on Wikidata
PrifddinasKilronan Edit this on Wikidata
Poblogaeth845 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolYnysoedd Arann Edit this on Wikidata
SirContae na Gaillimhe Edit this on Wikidata
GwladBaner Gweriniaeth Iwerddon Gweriniaeth Iwerddon
Arwynebedd31 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr123 metr Edit this on Wikidata
GerllawBae Galway Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.1236°N 9.7275°W Edit this on Wikidata
Hyd14 cilometr Edit this on Wikidata
Map
Ynysoedd Arann
Traeth Dwyreiniol, Inis Mór
Croes Inis Mór

Yr hen enw at yr ynys oedd Árainn Mhór, wedi ei Seisnigo i Aranmore, ond gan fod hyn yn peri dryswch gydag Arranmore, Swydd Donegal, newidiwyd yr enw i Inis Mór ("Ynys Fawr").

Mae'r ynys yn un o gadarnleoedd yr iaith Wyddeleg a'i diwylliant, ac mae'n rhan o'r Gaeltacht. Ceir nifer o henebion nodedig yma, yn arbennig Dún Aengus, caer o Oes yr Haearn. Oherwydd hyn, mae'n gyrchfan boblogaidd i dwristiaid. Cysyllrir yr ynys a'r tir mawr gan fferi Aran Direct o Rossaveal ac mae cwmni Aer Arann yn hedfan yno.

Ar Inis Mór y ganed y llenor Liam O'Flaherty, ac mae ei blentyndod yno yn sail i lawer o'i waith. Y dref fwyaf yw Kilronan.

Eginyn erthygl sydd uchod am Iwerddon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.