Llwyth Celtaidd yn byw yng ngogledd yr Eidal oedd yr Insubres neu Insubri. Roedd eu tiriogaethau yn yr hyn a ddaeth yn ddiweddarach yn Lombardi, a'u prifddinas oedd Mediolanum, Milan heddiw. Mae'n debyg eu bod yn gyfuniad o'r borodion, Ligwriaid ac Eidalwyr, â'r Celtiaid a symudodd i'r ardal o'r hyn sy'n awr yn dde Ffrainc.

Map o ieithoedd yr Eidal yn 6g CC, gyda lleoliad yr Insubres.
Ymhlith yr ieithoedd Celtaidd, mae:
Galeg, Leponteg, Insubreg, Rhaetieg, Feneteg (rhywfaint) ac Ilyreg (rhywfaint)

Gorchfygwyd hwy a llwythau Celtaidd eraill, y Boii, Lingones, Taurini, Gesati ac eraill, gan y Rhufeiniaid dan y conswl Lucius Aemilius Papus ym Mrwydr Telamon yn 224 neu 225 CC. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, cipiodd y Rhufeiniaid, a'u cyngheiriaid y Cenomani, gaer yr Insubres yn Acerrae, a'u gorchfygu eto ym Mrwydr Clastidium. Meddianwyd Milan gan y Rhufeiniaid yn 221 CC.

Pan ddaeth Hannibal a byddin i'r Eidal yn 218-217 CC, gwrthryfelodd yr Insubres yn erbyn Rhufain. Rhoddasant gefnofaeth i'r Carthaginiaid eto yn 200 CC, y tro hwn dan Hamilcar. Gwnaethant gynghrair a'r Rhufeiniaid yn 194. Rhoddwyd dinasyddiaeth Ladin iddynt yn 89 CC, a dinasyddiaeth Rufeinig yn 49 CC.