Irma Chilton

Awdures ffuglen Cymraeg

Awdures Gymreig oedd Mair Elizabeth Irma Chilton (née Evans) (12 Tachwedd 19301 Rhagfyr 1990) a arbenigodd mewn ysgrifennu i blant a phobl ifanc.

Irma Chilton
GanwydMair Elizabeth Irma Evans Edit this on Wikidata
12 Tachwedd 1930 Edit this on Wikidata
Casllwchwr Edit this on Wikidata
Bu farw1 Rhagfyr 1990 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amMochyn Gwydr Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Tir na n-Og Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Ganwyd a magwyd Irma Chilton ym mhentref Casllwchwr yn yr hen Sir Forgannwg. Yr hynaf o bump o blant ac yn ferch i Iorwerth Evans, ffwrnesiwr yn y gweithle tunplat lleol, ac Esther Jane (Muxworthy gynt), ysgrifenyddes cyn priodi i reolwr pwll glo. Derbyniodd Irma ei haddysg yn Ysgol Gynradd Pengelli, Ysgol Ramadeg i Ferched Tregŵyr a Choleg Prifysgol Cymru, Abertawe, lle'r enillodd radd yn y Gymraeg a chyfarfod â'i gŵr Harry Chilton. Cawsant ddau o blant, Dafydd, a anwyd ym 1960, y flwyddyn y symudodd y teulu o Sheffield i Tregeiriog yn Nyffryn Ceiriog, a Rhiannon, a anwyd ym 1965. Â Dyffryn Ceiriog y cysylltir enw Irma Chilton fwyaf fel awdures, ac mae sawl un o'i llyfrau'n seiliedig ar ei gwybodaeth o'r ardal.

Roedd yn awdures doreithiog a gafodd gyhoeddi ymron i 40 o'i llyfrau (heb gynnwys cyfieithiadau ac addasiadau), yn y Gymraeg a'r Saesneg yn bennaf, ond hefyd yn y Norwyeg. Enillodd nifer o wobrau llenyddol, taleithiol a chenedlaethol am ei gwaith yn cynnwys cystadleuaeth stori fer yr Eisteddfod Genedlaethol (droeon), coron Eisteddfod Powys (ddwywaith), a Gwobr Tir na n-Og (dwywaith yn y Gymraeg ac unwaith yn y Saesneg). Enillodd Fedal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llanrwst 1989 am ei nofel i bobl ifanc Mochyn Gwydr.

Gwaith a dylanwadau golygu

Gellir yn fras adnabod tair agwedd ar fywyd a gwaith Irma Chilton - yr agwedd gymunedol, ei gwaith fel athrawes a'i chyfraniad i lenyddiaeth. Mae'n deg dweud, er hynny, mai'r un ymdeimlad oedd yn ei chymell ym mhob un o'r agweddau hyn, sef ymwybyddiaeth gref o'i chenfdir fel un o blant gwerin ddiwydiannol Gymreig yr 1930au.

Bu ei thad, er yn adnabyddus fel "diawl am waith" a gymerai shifft ddwbl pan gai'r cyfle, yn ddi-waith am gyfnodau hirion. Bu'r teulu'n aml heb ddimau o arian ac yn ffodus iawn o'u gardd helaeth. Fel llawer i un arall yn y Gymru ddiwydiannol, fe welodd Irma Chilton chwalu ei gwreiddiau, ei chymdeithas a'i chapel, ei theulu a'r Gymraeg fel iaith y teulu. Magodd y profiadau hyn dân ynddi dros achos pobl o'r un cefndir gwerinol â hi, pobl a barnodd a oedd wedi eu defnyddio, eu difreinio a'u diystyru gan y drefn.

Fel athrawes roedd hi'n fywiog a phoblogaidd. Dechreuodd ei gyrfa yn Ysgol Dr. Williams Dolgellau. Treuliodd gyfnod wedi iddi briodi yn Sheffield, lle'r oedd ei dosbarthiadau'n cynnwys plant aelodau gangiau'r ddinas honno. Yna, ar ôl symud i Ddyffryn Ceiriog gweithiodd yn Ysgol Gynradd Llanarmon Dyffryn Ceiriog, Ysgol Grove Park Wrecsam, Ysgol Fodern y Bechgyn Croesoswallt ac Ysgol Uwchradd Rhiwabon.

Er iddi ysgrifennu ers roedd hi'n ifanc - enillodd gystadleuaeth stori fer yr Urdd gyda'i stori "Yr Antur" - dechreuodd ysgrifennu o ddifrif tra'n byw yn Sheffield. Gwelodd fod nifer o'r plant roedd yn eu dysgu yno'n ei chael hi'n anodd iawn i ddarllen, ac roedd o'r farn bod y llyfrau cynradd a ddarparwyd ar eu cyfer yn ddilornus o anaddas. Daeth i gysylltiad ag Aidan Chambers a bu'r ddau'n cydweithio am rai blynyddoedd ar lyfrau difyr ond hawdd eu darllen i blant oed uwchradd - yn bennaf cyfresi Rockets, a Topliners a werthodd yn dda iawn yn Unol Daleithiau America. Roedd darparu ar gyfer plant ag anawsterau darllen yn fater a roddodd sylw iddo gydol ei bywyd proffesiynol; ei swydd olaf fel athrawes, yn Ysgol Uwchradd Rhiwabon, oedd fel athrawes dosbarth adfer.

Gwelir ei chefndir hefyd yn y math o arwr a gyflwynodd yn ei straeon. Mae'r rhain yn ddieithriad yn bobl mae eu goroesi'n dibynnu ar eu hymdrechion eu hunain. 'Does yna ddim cefnogaeth na braint yn eu cynnal nac unrhyw Deus ex machina dosbarth canol i'w hachub. Mae Miriam, prif gymeriad 'Rhwng Cwsg ac Effro' a Sandra prif gymeriad Mochyn Gwydr yn arwresau nodweddiadol o waith Irma Chilton.

Un dylanwad amlwg yn hyn o beth ar waith Irma Chilton oedd bywyd Mair ei Mamgu. Yn wraig ifanc roedd Mair Jones yn forwyn ar fferm yng Nghastell Newydd Emlyn. Pan fu farw ei gŵr, gwas ar yr un fferm, fe gafodd Mair rybudd i adael. Aeth â'i dau fab, un yn dwdlyn a'r llall yn faban ar y fron, i Bengelli yn y gobaith o gael gwaith yn y gweithie tun neu mewn pwll glo. Yno cyfarfu â Dafydd Evans, halier mewn pwll glo ac yntau hefyd yn weddw. Priodwyd y ddau a chawsant ragor o blant; un o'r ail nythiad yma oedd Iorwerth, tad Irma. Roedd gan Mair y gallu a'r wybodaeth i wella'r ddafaden wyllt, math o gancr y croen, ac roedd hi mor lwyddiannus yn hyn o beth nes bod y meddyg lleol yn anfon cleifion ati i'w gwella. Roedd y meddyg, fodd bynnag, yn pryderu y cawsai Mair ei herlyn am ymarfer meddygaeth heb drwydded (yr oedd pobl eisoes yn cyfeirio ati fel Wits Wen) ac fe'i hanogodd hi i ennill cymhwyster. Yr unig faes a oedd ar agor i un o sefyllfa ac adnoddau Mair oedd bydwreigiaeth. Bu iddi fethu ei harholiadau'r tro cyntaf am nad oedd ei Saesneg yn bodloni'r arholwyr. Dysgodd well Saesneg, pasiodd ei harholiadau a threuliodd weddill ei bywyd yn gweini ar ei chymdeithas (a oedd i bob pwrpas yn uniaith Gymraeg).

Roedd Irma Chilton yn adnabyddus am ei hwyl a'i gweithgarwch. Tra'n byw yn Nyffryn Ceiriog bu am flynyddoedd yn Glerc y Cwrdd Plwyf (Cyngor Cymuned bellach), dysgodd genhedlaeth o blant i adrodd a chydadrodd, trefnodd weithgareddau cymunedol a bu'n aelod o dimau ymryson a Thalwrn y Beirdd yr ardal. Bu hi hefyd yn aelod gorsedd ac yn dderwydd gweinyddol Eisteddfod Talaith a Chadair Powys.

'Roedd hi hefyd yn berson teimladwy, a siomwyd hi droeon gan daeogrwydd ei chyd-Gymry. Esgorodd hyn ar nifer o straeon â min dychanol iddyn nhw. Yn dilyn Refferendwm Datganoli 1979 fe ysgrifennodd stori fer o'r enw "Democratiaeth" (a enillodd gystadleuaeth stori fer Eisteddfod Genedlaethol y flwyddyn ganlynol). Mae'r stori wedi ei gosod yn y dyfodol ac yn cofnodi myfyrdodau biwrocrat Prydeinig ynghylch gwychder iaith a diwylliant llywodraethol y cyfnod hwnnw, sef y Tsieineeg, o'u cymharu a thlodi chwerthinllyd adfeilion yr hen iaith Saesneg. Gwelir yr un nodweddion yn ei nofel i bobl ifanc Liw, a enillodd Wobr Tir na n-Og yn 1989.

Barnai bod gwybodaeth o hanes yn rhan hanfodol o hunaniaeth person a bod angen i ddyn wybod ei hanes o safbwynt ei bobl ei hun, hynny yw, mewn ffordd sy'n adlewyrchu gwerthoedd ei bobl ei hun. Dyma a oedd wrth wraidd ei phwyslais ar waith gwreiddiol yn y Gymraeg yn hytrach nag ar gyfieithu neu addasu gwaith o'r Saesneg. Mae ei llyfrau Tomen y Bwlch, Y Wobr a Straeon yr Aelwyd yn enghreifftiau da o hyn.

Cyfraniad mwyaf Irma Chilton, serch hynny, oedd i ddatblygiad llenyddiaeth plant a phobl ifanc yn y Gymraeg. Gwelai bod mwyafrif llenorion Cymru'r 1960au'n anwybyddu maes plant a phobl ifanc, a hynny oherwydd ei ddiffyg statws. Nid oedd, er enghraifft, yr un wobr genedlaethol ar gyfer llenyddiaeth o'r math yma. Penderfynodd bod angen codi statws a safon cyffredinol ysgrifennu i blant a phobl ifanc a chreu nifer fawr o lyfrau newydd, gwreiddiol a chyfoes. Bu'n pwyso ar gyrff megis Cyngor Llyfrau Cymru a Chyd-Bwyllgor Addysg Cymru, bu'n rhoi sgyrsiau cyhoeddus a oedd yn diffinio'r hyn oedd, ac a olygai, ysgrifennu i blant, a bu'n annog awduron eraill i ysgrifennu i blant a phobl ifanc. Ysgrifennodd lyfr ar ôl llyfr ei hun a golygodd a sefydlodd gyfresi o lyfrau stori a nofelau i blant (er enghraifft, Cyfres Corryn). Mae sgyrsiau hyrwyddo llenyddiaeth plant a phobl ifanc hyd heddiw'n drwm dan ddylanwad, a hyd yn oed yn ailadrodd, yr hyn roedd Irma Chilton yn ei ddweud yn yr 1970au a'r 1980au.

Yng nghanol yr 1980au fe gafwyd bod ganddi gancr y fron. Parhaodd i weithio hyd at ei marwolaeth yn Rhagfyr 1990 a chyhoeddwyd sawl un o'i llyfrau wedi iddi farw. Er maint ei chyfraniad, ac er iddi ennill Medal Ryddiaeth yr Eisteddfod Genedlaethol, ni chafodd ei gwahodd i fod yn aelod o'r Orsedd.

Bwrsariaeth goffa golygu

Yn dilyn marwolaeth Irma Chilton, penderfynodd ei theulu roi holl freindaliadau ei gwaith tuag at hyrwyddo llenyddiaeth plant a phobl ifanc Gymreig. Defnyddiwyd yr arian gan Gyngor Celfyddydau Cymru i sefydlu bwrsariaeth goffa. Caiff Gwobr Irma Chilton, swm o hyd at £10,000, ei gyflwyno i awduron plant sy'n ysgrifennu yn y Gymraeg neu'r Saesneg ar gyfer Cymru. Gweinyddir y bwrsariaeth gan gan yr Academi ers 2003, a chyn hynny gan Gyngor Celfyddydau Cymru.[1] Cyflwynwyd Gwobr Irma Chilton i'r awduron canlynol:

Llyfryddiaeth golygu

Cymraeg golygu

  • Cusanau (Llyfrau'r Dryw, 1968)
  • Byd Fuller a storïau eraill (Llyfrau'r Dryw, 1970) – cyfieithwyd i'r Norwyeg - Nynorsk - a'u cyhoeddi fel Grøn Pest yn 1978
  • Rhwng Cwsg ac Effro (Christopher Davies, 1975)
  • Mêt i Bompo (Christopher Davies, 1975)
  • Breichled Modlen (Christopher Davies, 1977) – Nofel Arobryn Eisteddfod Powys 1975
  • Storïau Irma Chilton (Christopher Davies, 1978)
  • Y Llong (J.D.Lewis/Gomer, 1979)
  • Yr Iâr Goch a storïau eraill i'w darllen i blant meithrin (Gwasg Gwynedd, 1980)
  • Y Syrcas a storïau eraill (Gomer, 1980)
  • Y Cwlwm Gwaed a storïau eraill (Gomer, 1981)
  • Tomen y Bwlch (Gomer, 1982)
  • Prynu Poli (Dref Wen, 1982)
  • Achub y Llwyth (Gomer, 1983)
  • Y Peiriant Amser (Gomer, 1983)
  • Y Wobr (Gomer, 1984) – Enillydd Cystadleuaeth Genedlaethol CBAC 1982
  • Y Teganau ar y Silff (Dref Wen, 1984)
  • Y Dyn wrth y Llyw, addas. ar gyfer Cyfres y Fodrwy dan yr enw Mair Dafydd
  • Cariadon (Yr Urdd, 1985)
  • Anturiaethau Chwanwen (Dref Wen, 1985)
  • Cyffro Cloë (Gomer, 1986)
  • Eurog (Gomer, 1986)
  • Dysgu Gyrru a Helyntion Eraill (Gomer, 1987)
  • Capten y Gang (Gomer, 1987)
  • Bwrw Swyn (Gomer, 1987)
  • Y Trap a storïau eraill, gwahanol awduron yn cynnwys Irma Chilton (Cyhoeddiadau Mei, 1987)
  • O'r Dirgel - storïau ias ac arswyd, gwahanol awduron yn cynnwys Irma Chilton, gol Irma Chilton (Gomer, 1987)
  • Liw (Gomer, 1988)
  • Mochyn Gwydr(Gomer, 1989)
  • Straeon yr Aelwyd (Gomer, 1989)
  • Parti Da! (Gomer, 1989)
  • Straeon i Godi Gwallt (Gomer, 1990)
  • Cip ar y Goleuni (Gomer, 1990)
  • Ffiwsi...Be? (Dref Wen, 1990)
  • Jaff (Gomer, 1990)
  • 'Fi Bia' Smotyn!' (Gomer, 1990)
  • Y Tywysog a'r Ogof, Frances Thomas addas. Irma Chilton (Gomer, 1990)
  • 5 Stryd y Bont (Gomer, 1991)
  • Dannodd Babadrac (Gomer, 1991)
  • Eli, (gyda Ruth Hamnett) (Gomer, 1992)
  • Ar Goll (CBAC, 2000)
  • Ar Fore Oer (CBAC, 2000)
  • Dylan yn Siarad Dwli (CBAC)
  • Fi Biau'r Tŷ Yma (CBAC, 2000)

Saesneg golygu

  • Take Away the Flowers & Fuller's World (Heinemann, 1967)
  • String of Time (Pan Macmillan, 1968) – ail-gyhoeddwyd yn UDA gan Scholastic dan yr enw Nightmare gan "I.M. Chilton"
  • Goldie (Hamish Hamilton, 1969)
  • The Time Button (Hamish Hamilton, 1970)
  • Strangers Up the Lane (Hamish Hamilton, 1970)
  • The Lamb (Macmillan, 1973)
  • The Hundred (Macmillan, 1974)
  • Club Books: Set 4. Remedial Readers (Littlehampton, 1975)
  • The Magic Cauldron and other Folktales (Christopher Davies, 1976)
  • A Spray of Leaves (Macmillan, 1977)
  • The Witch (Macmillan, 1979)
  • The Killer (Littlehampton, 1980)
  • Soul Ship (Cassell, 1980)
  • Flash (Cassell, 1981)
  • The Prize (Barn Owl Press, 1983)
  • A Glimmer of Light (Pont Books, 1992)

Gwobrau ac anrhydeddau golygu

Cyfeiriadau golygu