Isaac Orobio de Castro

Athronydd, ffisigwr, ac apolegwr Iddewig, a anwyd yn Bragança, Portiwgal oedd Balthazar (Isaac) Orobio de Castro (oddeutu 16177 Tachwedd 1687).

Isaac Orobio de Castro
Ganwyd1617 Edit this on Wikidata
Bragança Edit this on Wikidata
Bu farw7 Tachwedd 1687 Edit this on Wikidata
Amsterdam Edit this on Wikidata
DinasyddiaethSbaen, Teyrnas Portiwgal Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Cydymffurfio Edit this on Wikidata
Galwedigaethathronydd, meddyg, diffynnydd, ysgrifennwr, academydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Salamanca
  • Prifysgol Toulouse Edit this on Wikidata
LlinachDe Castro family Edit this on Wikidata
Arms of the de Castro Family
from the Jewish Encyclopedia

Bywyd golygu

Tra'r oedd efe'n blentyn, aeth ag ef i Seville gan ei rieni, a oedd yn Iddewon cudd. Astudiodd athroniaeth yn Alcalá de Henares a daeth tyn athro metaffiseg ym Mhrifysgol Salamanca. Ar ôl hynny, ymroddodd ei hunan i astudio meddygaeth, a daeth yn ymarferydd poblogaidd yn Seville, ac yn ffisigwr cyffredin i ddug Medina-Celi.

Pan oedd yn briod ac yn dad i'r teulu, condemniwyd De Castro i'r Chwilys yn ymlynwr Iddewiaeth. Gwrthododd y peth lawer gwaith, ac o'r herwydd, rhyddhawyd ef, ond gorfodwyd iddo adael Sbaen ac i wisgo'r sambenito, neu ddilledyn edifeiriol, am gyfnod o ddwy flynedd. Aeth, felly, i Doulouse, lle daeth yn broffeswr meddygaeth yn y brifysgol yno, ac ar yr un adeg, cafodd y teitl o "councilor" gan Louis XIV; ond oherwydd roedd yn ofni rhagrith, aeth ef i Amsterdam tua 1666. Tra iddo fod yno, gwnaeth gyffes gyhoeddus ei fod yn Iddew, ac ers hynny, galwodd ei hunan yn "Isaac." Yno, parhaodd de Castro ymarfer meddygaeth, a daeth yn enwog o'i herwydd yn dra chyflym, gan gael ei ethol yn Ddirectoire cynulleidfa Sbaen-Portiwgal a sawl academi barddoniaeth eraill. Bu farw yn Amsterdam. Bu farw Esther, ei wraig, ar 5 Gorffennaf 1712.

Cyfeiriadau golygu

  • Kaplan, Yosef From Christianity to Judaism. The Story of Isaac Orobio de Castro Littman Library of Jewish Civilization, 2004 (ISBN 1-904113-14-1)