Awdures o Tsile yw Isabel Allende Llona (ganwyd 2 Awst 1942 yn Lima, Periw). Mae ei gwaith yn canolbwyntio ar brofiadau menywod ac mae hi'n cymysgu realaeth a dychymyg i greu realaeth hudol (Magical Realism). Ymhlith ei gwaith mwyaf nodedig mae The House of the Spirits (La casa de los espíritus, 1982) a City of the Beasts (La ciudad de las bestias, 2002), a oedd hefyd yn llwyddiant o ran gwerthiant y llyfrau. Credir mai Allende yw'r "awdur sydd wedi gwerthu mwyaf o lyfrau Sbaeneg o'i chenehedlaeth".[1]

Isabel Allende
Ganwyd2 Awst 1942 Edit this on Wikidata
Lima Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America, Tsile Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Liceo Javiera Carrera Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor llais, sgriptiwr, awdur plant, nofelydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amTŷ'r Ysbrydion, Zorro, A Long Petal of the Sea Edit this on Wikidata
Arddullnofel, nofel fer Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddolplaid Ddemocrataidd Edit this on Wikidata
Mudiadffeministiaeth, realaeth hudol Edit this on Wikidata
PriodMiguel Frías, Willie Gordon Edit this on Wikidata
PlantPaula Frías Allende, Nicolás Frías Allende Edit this on Wikidata
PerthnasauSalvador Allende, Laura Allende, Ramón Huidobro Domínguez Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Genedlaethol am Lenyddiaeth, Hans Christian Andersen Literature Award, Neuadd Enwogion California, Gwobrau Llyfrau Americanaidd, Gwobr y Gymanwlad am Wasanaeth Rhagorol, Gwobr Llyfr Anisfield-Wolf, doctor honoris causa, Gwobr 100 Merch y BBC, Premio Iberoamericano de Letras José Donoso, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Harvard, Alcalá City Awards, honorary doctor of the University of Santiago, Chile, Medal Rhyddid yr Arlywydd, Gwobr lenyddiaeth Carl Sandburg, Library of Congress Prize for American Fiction, Great Immigrants Award, WILLA Literary Award Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.isabelallende.com Edit this on Wikidata

Ganwyd Isabel Allende yn Lima, Periw, am fod ei thad, Tomás Allende; yn llysgennad Tsile i Periw. Cefnder ei thad oedd Salvador Allende, Arlywydd Tsile o 1970 i 1973. Yn 1945, symudodd y teulu yn ôl i Santiago, Tsile, tan 1953 pan ailbriododd ei mam hi i Ramón Huidobro (diplomydd arall) a symudon nhw i Bolifia, a Beirut cyn dychwelyd i Tsile yn 1958.

Priododd Miguel Frías yn 1962, a tan 1965 bu Allende yn gweithio i'r Cenhedloedd Unedig. Cawson nhw ferch yn 1963 a mab yn 1966. Cyflawnodd waith mam, diplomydd. Erbyn 1988, priododd Allende ag Americanwr, Willie Gordon. Daeth yn ddinesydd yr UDA yn 2003. Erbyn heddiw mae hi'n byw yn San Rafael, California.

Gwobrau golygu

  • Grand Prix d’Evasion
  • Gwobr Gabriela Mistral (Tsile)
  • Gwobr Bancarella (Yr Eidal)
  • Chevalier des Artes et des Lettres

Gwaith golygu

Trosiadau i'r Gymraeg:

  • Walimai gan Isabel Allende, troswyd gan Dewi Wyn Evans yn Taliesin cyf 121, Gwanwyn 2004

Gweithiau eraill:

  • Tŷ'r Ysbrydion (1982) La casa de los espíritus
  • Y Ddynes Dew Borslen (1984) La gorda de porcelana
  • Am Gariad a Chysgod (1985) De amor y de sombra
  • Eva Luna (1987)
  • Straeon Eva Luna (1989) Cuentos de Eva Luna
  • Y Cynllun Tragwyddol (1991) El plan infinito
  • Paula (1995)
  • Aphrodite: Cofiant i'r Synhwyrau (1998) Afrodita
  • Merch i Ffortun (1999) Hija de la fortuna
  • Llun Sepia (2000) Retrato en sepia
  • Dinas y Bwystfilod (2002) La ciudad de las bestias
  • Fy Ngwlad Greëdig (2003) Mi país inventado
  • Deyrnas y Ddraig Aur (2004) El reino del Dragón del Oro
  • Zorro (2005) El Zorro
  • Coedwig y Corachod (2005) El Bosque de los Pigmeos
  • Ines, fy Enaid (2006) Inés del Alma Mía
  • Cyfanswm ein dyddiau (2008) La Suma de los Días
  • "Yr Ynys o dan y Môr" (2009) "La Isla bajo el mar"

Cyfeiriadau golygu

  1. "Isabel Allende Named to Council of Cervantes Institute. Latin American Herald Tribune. 23 Hydref 2009". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-04-30. Cyrchwyd 2015-08-03.