Islam yn ôl gwlad

Islam yw'r ail grefydd fwyaf yn y byd ar ôl Cristnogaeth gyda 1.3-1.8 biliwn o gredadwyr, sy'n cynnwys 20-25% o boblogaeth y byd[1] gyda'r rhan fwyaf o ffynonellau yn amcangyfrif fod tua 1.5 biliwn o Fwslimiaid yn y byd.[2][3]

Islam yn ôl gwlad
Enghraifft o'r canlynolerthygl sydd hefyd yn rhestr Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Islam - canran Mwslimiaid yn ôl gwlad

Islam yw'r brif grefydd yn y Dwyrain Canol, rhai rhannau o Affrica[4][5] ac Asia.[6] Ceir cymunedau sylweddol o Fwslimiaid yn Ngweriniaeth Pobl Tsieina, Bosnia-Hertsegofina, Dwyrain Ewrop a Rwsia hefyd. Mewn rhai rhannau eraill o'r byd, ceir poblogaethau o fewnfudwyr Mwslimaidd; yng Ngorllewin Ewrop Islam yw'r ail grefydd fwyaf ar ôl Cristnogaeth.

Mewn tua 30 i 40 o wledydd y byd mae Mwslimiaid yn ffurfio mwyafrif y boblogaeth. De Asia a De-ddwyrain Asia yw'r rhanbarthau lle ceir y gwledydd Mwslim mwyaf; Ceir dros 100 miliwn o Fwslimiaid ym mhob un o'r gwledydd hyn: Indonesia, Pacistan, India (lleiafrif), a Bangladesh.[7] Yn ôl llywodraeth yr Unol Daleithiau, roedd yna dros 20 miliwn Mwslim yng Ngweriniaeth Pobl Tsieina yn 2006 (canran isel o'r boblogaeth er hynny, yn byw yng ngorllewin y wlad yn bennaf).[8] Yn y Dwyrain Canol, Twrci ac Iran, sydd ddim yn wledydd Arabaidd, yw'r gwledydd mwyaf gyda mwyafrif Mwslimaidd; yn Affrica, ceir y cymundau Mwslim mwyaf yn Yr Aifft a Nigeria. Mae mwyafrif llethol poblogaeth gwledydd y Maghreb yn Fwslimiaid hefyd.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Adherents.com". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-12-26. Cyrchwyd 2009-09-10.
  2. "Adherents.com". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-12-26. Cyrchwyd 2009-09-10.
  3. "Adherents.com". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-03-15. Cyrchwyd 2009-09-10.
  4. "The Africanization of Missionary Christianity: History and Typology", Steven Kaplan, Journal of Religion in Africa 16 (3) (1986), 165-186. "In Africa, Islam and Christianity are growing - and blending". Abraham McLaughlin, The Christian Science Monitor, 26 Ionawr 2006.
  5. Encyclopedia Britannica. Britannica Book of the Year 2003. Encyclopedia Britannica, (2003) ISBN 978-0-85229-956-2 tud. 306.
  6. Britannica [1], Think Quest [2] Archifwyd 2010-02-17 yn y Peiriant Wayback., Wadsworth.com [3] Archifwyd 2008-12-14 yn y Peiriant Wayback.
  7. Number of Muslims by country
  8. 'International Religious Freedom Report 2006—China' (yn cynnwys Tibet, Hong Cong, a Macau).

Gweler hefyd golygu

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Islam. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.