Cyflwr neu haen o'r meddwl sy'n gorwedd yn is na'r ymwybyddiaeth effro ac sy'n waelodol iddi, sef rhan o'r meddwl nad ydym yn ymwybodol ohono yn uniongyrchol ond sy'n lliwio ein meddwl effro, yw'r isymwybod. Mae'n gysyniad a gysylltir â gwaith y seicolegydd Sigmund Freud a'r mudiad Swrealaeth.

Yn ystod y 19g ceir arwyddion yng ngwaith sawl athronydd fel Leibniz, Schelling a Nietzsche fod agweddau ar y meddwl dynol sy'n gorwedd yn is neu'n ddyfnach na'r meddwl effro, ond Sigmund Freud oedd y cyntaf i archwilio a cheisio dadansoddi a diffinio'r isymwybod. Mae ei ddarganfyddiadau, sydd wedi cael dylanwad mawr ar feddwl yr 20g a'r ganrif hon, yn ganolog i seicdreiddiad (seicoanalysis).

Credai artistiaid y mudiad Swrealaeth, y gellir rhyddhau'r meddwl, ac yna rhyddhau'r unigolyn a'r gymdeithas, trwy defnyddio cynneddfau dychmygol yr isymwybod, a chyrraedd cyflwr breuddwydiol sy'n wahanol i (neu hyd yn oed yn mwy gwir na) realiti pob dydd. Creda Swrealwyr y gall y realiti hwn greu chwyldro personol, diwylliannol, a chymdeithasol, a bywyd o ryddid, barddoniaeth a rhywioldeb di-derfyn.

Cafodd y cysyniad o'r isymwybod ddylanwad mawr ar waith mytholegwyr hefyd, gan awgrymu fod yr agoriad i ddeall sawl agwedd ar chwedlau a chredoau i'w cael yn yr haen gyntefig, waelodol hon o'r meddwl a dychymyg dynol.

Llyfryddiaeth golygu

  • H. F. Ellenberger, The Discovery of the Unconscious (Efrog Newydd, 1970)