Darlunydd a chynllunydd setiau theatr Rwsiaidd oedd Ivan Yakovlevich Bilibin (Rwsieg Иван Яковлевич Билибин) (4/16 Awst 18767 Chwefror 1942).

Ivan Bilibin
Ganwyd4 Awst 1876 (yn y Calendr IwliaiddEdit this on Wikidata
Tarkhovka Edit this on Wikidata
Bu farw7 Chwefror 1942, 8 Chwefror 1942 Edit this on Wikidata
St Petersburg Edit this on Wikidata
DinasyddiaethYmerodraeth Rwsia, Yr Undeb Sofietaidd Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Saint Petersburg Edit this on Wikidata
Galwedigaethdarlunydd, arlunydd, arlunydd graffig Edit this on Wikidata
Arddullbook illustration Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadIlya Repin, Anton Ažbe Edit this on Wikidata

Gyrfa golygu

Creodd Ivan Bilibin ei arddull arbennig ei hun mewn darlunio llyfrau, arddull â'i gwreiddiau'n ddwfn yn arddulliau steilistig celf canoloesol a gwerinol Rwsia, fel y lubok (printiadau poblogaidd rhad y 19g), brodwaith y werin, lluniau bloc pren a llawysgrifau darluniedig. Mae defnydd Bilibin o linellau cysact wedi'u tynnu'n ofalus yn ei gysylltu â gwaith y mudiad Art Nouveau.

 
Aderyn y Tân

Roedd Bilibin yn cael ei adnabod yn bennaf yn ystod ei oes am ei ddarluniau o olygfeydd allan o chwedlau gwerin Rwsiaidd a hefyd o'r bylinas, arwrgerddi hir hynafol Rwsiaidd, yn ogystal â'i luniau ar gyfer gwaith Alecsander Pwshcin a Mikhail Lermontov. Fe wnaeth lawer o waith ar gyfer y theatr yn ogystal, yn sets anferth lliwgar a greai awyrgylch arbennig ar y llwyfan, yn arbennig ar gyfer operâu fel Chwedl Tsar Saltan, Chwedl y Ceiliog Aur, Y Tywysog Igor a Boris Godunov. Creodd gostiwmau i'r olaf hefyd a chafodd ei waith ei weld ym mhrif theatrau St Petersburg, Moscow, Paris a Prague.

Llyfryddiaeth golygu

Sergei Golynets, Ivan Bilibin (Leningrad, 1981; argraffiad newydd, Llundain, 1981). ISBN 0330266314

Gweler hefyd golygu