Ivor Novello

sgriptiwr ffilm a chyfansoddwr a aned yng Nghaerdydd yn 1893

Roedd David Ivor Davies neu Ivor Novello (15 Ionawr 18936 Mawrth 1951) yn ddifyrrwr, yn ddramodydd, yn actor ac yn fab i David Davies a "Madame" Clara Novello Davies, cantores enwog. Fe'i ganed yn Llwyn-yr-Eos, Heol y Bontfaen, Dwyrain Caerdydd. Bu farw yn Theatr y Strand, Llundain.

Ivor Novello
FfugenwIvor Novello Edit this on Wikidata
GanwydDavid Ivor Davies Edit this on Wikidata
15 Ionawr 1893 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
Bu farw6 Mawrth 1951 Edit this on Wikidata
o coronary thrombosis Edit this on Wikidata
Westminster Edit this on Wikidata
Man preswylLittlewick Green Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Ysgol Coleg Magdalen Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, dramodydd, cyfansoddwr, ysgrifennwr, sgriptiwr, cyfansoddwr caneuon, actor llwyfan, actor ffilm, canwr, cyfarwyddwr ffilm, libretydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amGlamorous Night, The Bohemian Girl Edit this on Wikidata
Arddullsioe gerdd, opereta, neuadd gerddoriaeth Edit this on Wikidata
MamClara Novello Davies Edit this on Wikidata
PriodRobert Andrews Edit this on Wikidata
PartnerRobert Andrews Edit this on Wikidata

Cyfansoddodd Novello y gân enwog, "Keep the Home Fires Burning" yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Cafodd lwyddiant gyda sioeau megis Glamorous Nights a King's Rhapsody.

Pan oedd yn 12 oed, enillodd am ganu dan 12 oed yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaernarfon, 1906. Ond cafodd ei garcharu yn ystod yr Ail Ryfel Byd am ddefnyddio petrol anghyfreithlon, profiad a effeithiwyd arno'n fawr. Roedd Novello yn ddyn hoyw agored a hapus. Am 35 mlynedd roedd yn gymar i'r actor Bobbie Andrews, dywedir iddo fod yn gariad i Siegfried Sassoon, y bardd o Sais.[1] Am flynyddoedd llawer bu'n byw yn Littlewick Green, Berkshire.

Mae cerflun ohono ym Mae Caerdydd, sydd y rhestru rhai o'i ganeuon enwocaf.

Ffilmiau golygu

  • The Call of the Blood (L'Appel du Sang) (1919)
  • Miarka: The Daughter of the Bear (Miarka, Fille de L'Ourse) (1920)
  • Carnival (1922)
  • The Bohemian Girl (1922)
  • The Man Without Desire (1923)
  • The White Rose (1923)
  • Bonnie Prince Charlie (1923)
  • The Rat (1925)
  • The Triumph of the Rat (1926)
  • The Lodger: A Story of the London Fog (1927)
  • Downhill (1927)
  • The Vortex (1928)
  • The Constant Nymph (1928)
  • The Gallant Hussar (1928)
  • The South Sea Bubble (1928)
  • The Return of the Rat (1928)
  • Symphony in Two Flats (1930)
  • Once a Lady (1931)
  • The Phantom Fiend (1932)
  • I Lived With You (1933)
  • Sleeping Car (1933)
  • Autumn Crocus (1934)

Llyfryddiaeth golygu

  • Glamorous Night (1935)
  • Careless Rapture (1936)
  • The Dancing Years (1939)
  • Perchance to Dream (1945)
  • King's Rhapsody (1949)
 
Llwyn yr Eos

Cyfeiriadau golygu

  1. Hafina Clwyd, Rhywbeth Bob Dydd (Gwasg Carreg Gwalch, 2008), tt.19–21