Iwan Rheon

actor a chyfansoddwr Cymreig Cymraeg a aned ym 1985

Actor ffilm a theledu, canwr a chyfansoddwr Cymreig yw Iwan Rheon (ganed 13 Mai 1985), sydd wedi ennill gwobr Olivier, a graddio o London Academy of Music and Dramatic Art (LAMDA). Mae e'n un o brif actorion y gyfres Game of Thrones.

Iwan Rheon
Ganwyd13 Mai 1985 Edit this on Wikidata
Caerfyrddin Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor, canwr, cyfansoddwr, gitarydd, canwr-gyfansoddwr, actor llwyfan, actor ffilm, actor teledu Edit this on Wikidata
Arddullindie folk Edit this on Wikidata
Math o laisbariton Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Laurence Olivier am y Perfformioad Wrth-Gefn Gorau mewn miwsical Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://iwanrheon.com/ Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar golygu

Ganed yng Nghaerfyrddin yn fab i Einir a Rheon Tomos ac mae ganddo frawd hŷn, sef Aled. Symudodd y teulu i Gaerdydd pan oedd yn bump oed a mynychodd Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf lle gymerodd rhan mewn cynyrchiadau drama'r ysgol, a chystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, dechreuodd actio o ddifrif pan oedd yn 17 oed, gan fynd i astudio yn LAMDA.[1]

Gyrfa golygu

Actio golygu

 
Iwan yn 2011

Ymunodd Rheon â chast y ddrama sebon Gymreig, Pobol y Cwm, pan oedd yn 17 oed, gan chwarae rhan Macsen White, ond gadawodd y rhaglen yn ddiweddarach i astudio yn LAMDA. Daeth ei rôl cyntaf o nôd ar y llwyfan yn Eight Miles High yn 2008 yn y Royal Court Theatre, Lerpwl.

Cafodd ei gastio i chwarae rhan Moritz Steifel yng nghynhyrchiad 2008 o ddrama gerdd roc Spring Awakening yn Llundain, a enillodd wobr Tony. Dechreuodd chwarae'r rôl yn Ionawr 2009 yn Lyric Hammersmith, a parhaodd pan symudwyd y sioe i Theatr Novello, nes i'r sioe ddod i ben ym Mai 2009, pum mis yn gynharach na'r disgwyl. Enwyd ef fel yr Actor Gefnogol Orau mewn Sioe Gerdd ar gyfer gwobrau What's On Stage. Mae hefyd wedi ennill Gwobr Laurence Olivier yr Actor Gefnogol Orau mewn Sioe Gerdd yn 2010.

Yn syth wedi Spring Awakening, cafodd Rheon ei gastio ar gyfer cyfres deledu E4, Misfits, rhaglen a enillodd BAFTA. Disgrifwyd y sioe gan 247 Magazine fel cymysgedd o Skins a Heroes". Mae'n chwarae cymeriad swil a nerfus Simon Bellamy sy'n ennill y gallu i fod yn anweledig.

Mae hefyd wedi ymddangos fel gwestai ar rhaglen gomedi Simon Amstell, Grandma's House. Ymddangosodd hefyd ym mhenod olaf Secret Diary of a Call Girl yn 2011.

Cerddoriaeth golygu

Mae hefyd yn ysgrifennu a chanu caneuon ers 16 oed, ac yn brif lais y grŵp The Convictions, hyd iddo adael y band er mwyn canolbwyntio ar ei yrfa actio. Rhyddhaodd EP Tongue Tied yn 2010, recordwyd yn RAK Studios, Llundain,[2] wedi ei gynhyrchu gan Jonathan Quarmby a Kevin Bacon.[3] Dychwelodd i RAK Studios ym mis Ebrill 2011, er mwyn recordio ei ail EP, Changing Times, wedi ei gynhyrchu unwaith eto gan Quarmby a Bacon, ond y tro hwn gyda 3 cerddor cefndirol. Rhyddhawyd Changing Times ar 10 Hydref 2011.[4]

Ffilmyddiaeth golygu

Ffilm golygu

Blwyddyn Teitl Rhan Nodiadau
2011 Resistance George
Wild Bill Pill
2012 Back of Beyond, TheThe Back of Beyond Petesy Ffilm fer
The Rise (a elwid Wasteland yng Ngogledd America) Dempsey
2013 Libertador Daniel O'Leary
2015 Charlotte's Song Randall
2016 Alien Invasion: S.U.M.1 S.U.M.1
2017 Daisy Winters Doug
2018 Hurricane: 303 Squadron (neu Mission of Honor yn yr UDA) Jan Zumbach
2019 Berlin, I Love You Greg Pennod: "Embassy"
The Dirt Mick Mars
Four Llofrudd Ffilm byr
2020 The Existential Hotline Fred Ffilm byr
2021 The Toll (neu Tollbooth yn yr UDA) Dom
Barbarians Adam
2022 The Magic Flute Papageno

Teledu golygu

Blwyddyn Teitl Rhan Nodiadau
2002–2004 Pobol y Cwm Macsen White
2009–2011 Misfits Simon Bellamy 21 pennod
2010 Coming Up Luka 1 pennod
2010–2012 Grandma's House Ben Theodore 2 bennod
2011 Secret Diary of a Call Girl Lewis 1 pennod
2013–2016 Game of Thrones Ramsay Bolton 20 pennod
2013–2016 Vicious Ash Weston 14 pennod
2014 Our Girl Dylan "Smurf" Smith 5 pennod
2015 Residue Jonas Flak 3 pennod
2016 The Green Hollow Sam Knight
2017 Urban Myths Adolf Hitler 1 pennod
Riviera Adam Clios 10 pennod
Inhumans Maximus 8 pennod
Family Guy George Harrison (llais), John Lennon (llais) Pennod: "Petey IV"
2019 PTSD: The War in My Head Adroddwr
2020 A Special School Adroddwr
The Snow Spider Llais Gwydion
2021 American Gods Liam Doyle
Y Tywysog Y Tywysog Wiliam (llais)
A Christmas Number One Blake Cutter
2022 Y Golau Joe Pritchard

Gemau fideo golygu

Blwyddyn Teitl Rhan Nodiadau
2014–2015 Game of Thrones Ramsay Snow Llais a delwedd

Llwyfan golygu

Blwyddyn Teitl Rhan Nodiadau
2008 Eight Miles High Al Royal Court Theatre
2009 Spring Awakening Moritz Stiefel Lyric Hammersmith
2010 The Devil Inside Him Huw Prosser National Theatre Wales
2011 Remembrance Day Lyosha Royal Court Theatre

Radio golygu

Blwyddyn Teitl Rhan Nodiadau
2013 Darkside The Boy Llais

Disgyddiaeth golygu

Cyfeiriadau golygu

  1.  Ben Bryant (11 Mai 2010). Iwan Rheon Interview. Buzz.
  2.  Live Music. The Bedford (29 Rhagfyr 2010).
  3.  BACON & QUARMBY. Alan Cowderoy Management. Adalwyd ar 2 Chwefror 2012.
  4.  Iwan Rheon. The Monto. Adalwyd ar 2 Chwefror 2012.

Dolenni allanol golygu