Iwan Roberts (actor a cherddor)

actor a aned yn 1967

Actor, canwr, a nofelydd Cymraeg yw Iwan "Iwcs" Roberts'. Cynhyrchydd a sgriptiwr y gyfres deledu Dal y Mellt (ganwyd 1967). Mae wedi gweithio ar amryw o ffilmiau, gan gynnwys y cynyrchiadau “Eldra” ac “Y Lleill”, a wnaethant ill dau ennill BAFTA Cymru. Mae'n adnabyddus am ei bortread o’r cymeriad Kevin Powell yn yr opera sebon Pobol y Cwm. Mae hefyd wedi dilyn gyrfa lwyddiannus fel canwr-gyfansoddwr fel rhan o’r deuawd Iwcs a Doyle ac fel artist unigol. Yn 2019 cyhoeddodd ei nofel gyntaf sef Dal y Mellt a gafodd dderbyniad anhygoel gan y cyhoedd, ag adolygiadau gwych gan y wasg.[angen ffynhonnell]

Iwan Roberts
Ganwyd1967 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethactor, bardd, cerddor, cyfansoddwr caneuon, canwr, actor teledu Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar golygu

Fe magwyd Iwan Roberts ym mhentref Trawsfynydd, Gwynedd. Yn dalent creadigol ac yn berfformiwr greddfol o oedran cynnar, cychwynodd ei yrfa fel actor yn ifanc, drwy actio mewn cynyrchiadau yn Ysgol Gynradd Trawsfynydd a pherfformio mewn sawl cynhyrchiad theatr lleol.

Gyrfa golygu

Cychwyn: 1985–1996 golygu

Ar ôl gorffen ei addysg uwchradd yn Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog, ymrestrodd Iwan Roberts ar gwrs peirianneg, gyda’i frŷd ar weithio fel gôf [1]. Ar yr un pryd arweiniodd ei hoffter at berfformio iddo ymuno gyda’r grŵp theatr Theatr Bara Caws. Ymddangosodd mewn sawl cynhyrchiant theatr gyda Theatr Bara Caws, Theatr Arad Goch, ac eraill, cyn gwneud ei ymddangosiad cyntaf ar y teledu yn y gyfres gomedi Rhew Poeth, a gafodd ei darlledu ar S4C ym 1985. Wedi hynny, ymddangosodd Iwcs ar sawl cyfres deledu gan gynnwys treulio cyfnod byr ar ddiwedd yr 1980au yn actio yn yr opera sebon Pobol y Cwm, a’r gyfres gomedi boblogaidd C'mon Midffîld!, cyn mynd yn ei flaen i actio mewn cyfresi teledu eraill gan gynnwys Minafon a Lleifior.

Ym 1994, chwaraeodd ran Dafydd yn y ddrama Y Wisg Sidan (addasiad deledu o nofel Elena Puw Morgan). Hefyd ym 1994, chwaraeodd Iwan ran Barry Pritchard yn y gyfres ddrama A55 a enillodd BAFTA Cymru ym 1995 am y Ddrama Orau. Ymddangosodd Iwan Roberts mewn amrywiol ffilmiau yn y 1990au cynnar, gan gynnwys Y Beicar a Gwynfyd.

Iwcs a Doyle: 1996–1999 golygu

Ym 1996, arallgyfeiriodd Iwcs ei yrfa fel perfformiwr, ac ynghyd â'r gitarydd John Doyle, ffurfiodd y deuawd Iwcs a Doyle. Ym Mhontrhydfendigaid ar Ddydd Gŵyl Dewi 1996, enillodd Iwcs a Doyle y gystadleuaeth flynyddol Cân i Gymru [2]. Yn ddiweddarach y flwyddyn honno rhyddhaodd Iwcs a Doyle yr albwm Edrychiad Cynta', a gafodd ei chynhyrchu gan Les Morrison[3]. Gwerthodd yr albwm yn dda iawn, a derbyniodd glod mawr. Perfformiodd Iwcs a Doyle mewn sawl lleoliad a gŵyl gerddorol, gan gynnwys Sesiwn Fawr Dolgellau, a'r Ŵyl Ban Geltaidd yn Nrhali, Iwerddon ym 1996.

Teledu, Theatr a Ffilm: 1999–2007 golygu

Parhaodd Roberts i actio drwy gydol ei amser yn perfformio fel Iwcs a Doyle. Efallai mai ei rôl mwyaf nodedig yn ystod y cyfnod hwn oedd ei bortread o’r masnachwr gwin Gary Lovell yn y gyfres ddrama Pengelli (1997-2000). Ym 1999, ymddangosodd fel y cymeriad Hari Bont yn Porc Peis Bach (1999-2004), ac yn ddiweddarach actiodd yn y gyfres Talcen Caled (2001-2003); y ddrama hanesyddol Y Stafell Ddirgel yn 2002 (addasiad o nofel Marion Eames), ac ‘roedd ganddo rôl rheolaidd yn yr opera sebon Xtra (2002-2003) [4].

Yn ystod y cyfnod hwn, darparodd Iwan Roberts droslais ar gyfer adnewyddiad o ffilm 1935 Ifan ab Owen Edwards Y Chwarelwr. Yn ogystal, darparodd droslais ar gyfer sawl animeiddiad [5], ac ar amryw o ddramau radio ar BBC Radio Cymru.

O gwmpas y cyfnod yma ymddangosodd Iwan Roberts yn y sioe theatr un dyn, a chynhyrchiad ffilm o bryddest fuddugol Eisteddfod Genedlaethol Cymru Tyddewi 2002 Awelon [6]. Actiodd ran Elvis Presley hefyd yn y sioe theatr dau berson “Plant Gladys”[7], yn ogystal ag ymddangos yn y cynhyrchiad Bownsars (addasiad o Bouncers gan John Godber).[8]

Ar yr un pryd, ymddangosodd Iwan "Iwcs" Roberts yn y ffilm Eldra (2003), a chwaraeodd ran Paul yn y cynhyrchiad Ankst Y Lleill[9], ac enillodd breswylfa gyda’r Institute of Contemporary Arts yn Rhagfyr 2006 [10], ac a hefyd enillodd BAFTA am y ffilm orau y flwyddyn ganlynol [11].

Gyrfa canu unigol: 2005–2007 golygu

Cyfansoddodd a recordiodd Iwcs ei albwm unigol gyntaf o’r enw Cynnal Fflam yn 2005. Recordiwyd yr albwm yn Waunfawr, Gwynedd, a chafodd ei chyd-gynhyrchu gan Bob Galvin a Iwcs [12]. Trwy gydol ei yrfa fel perfformiwr ac artist, mae Iwan Roberts wedi nodi mai ffynhonell ei ysbrydoliaeth a’i brif ddylanwadau artistig yw’r amgylchedd naturiol a’r bobl sydd o’i gwmpas [1].

Pobol y Cwm: 2007–2014 golygu

Dychwelodd Roberts i Pobol y Cwm yn 2007 i chwarae rhan Kevin Powell. Parhodd yn y rôl hon fel un o’r prif gymeriadau tan 2014.

2014–2022 Ysgrifennodd ei nofel gyntaf or enw Dal y Mellt a dderbyniodd ymateb gwych gan y cyhoedd a'r adolygwyr. Dechreuodd ei throsi ag ysgrifennu sgript 6 pennod awr o'i waith craidd. Fe ddaeth y gyfres deledu Dal y Mellt i fodolaeth ar y sgrin yn hydref 2022.

Ffilmograffiaeth ddetholedig golygu

Blwyddyn Teitl Rôl Gwybodaeth Ychwanegol
2007–2014 Pobol y Cwm Kevin Powell Opera Sebon; Rhan Reolaidd
2005 Craig ac Eifion Amrywiol Cyfres Adloniant Plant
Y Lleill Paul Prif Ffilm; Enillydd BAFTA Cymru – Ffilm Orau; Prif Ran
Tri Tan y Manod Cacan Comedi; Prif Ran
2004 Porc Peis Bach Hari Bont Comedi
2003 Awelon Prif Gymeriad Ffilm Fer; Prif Ran
Talcen Caled Maldwyn Drama; Rhan Reolaidd
2002 Xtra Bibs Opera Sebon; Rhan Reolaidd
Y Stafell Ddirgel Drama Hanesyddol
2001 Eldra Prif Ffilm; Enillydd BAFTA Cymru – Ffilm Orau
2000 Pengelli Gary Lovell Drama; Rhan Reolaidd (Pedair Cyfres)
1998 Y Band Pres Ffilm Deledu
1996 Iwcs y Forwyn Chalet Ei Hun Rhaglen Ddogfen; Cyflwynydd
1995 Cegin y Diafol Ffilm Deledu
1994 A55 Barry Pritchard Drama; Enillydd BAFTA Cymru – Drama Orau; Prif Ran
Y Wisg Sidan Dafydd Drama Hanesyddol
1992 Lleifior Drama Hanesyddol
1991 Gwynfyd Ffilm Deledu
1990 Y Beicar Ffilm Deledu
Wadlo Ei Hun Cyfres Ddogfen; Cyflwynydd
1987 Anest Melfyn Drama
Minafon Opera Sebon
1986 C'mon Midffîld! Comedi
1985 Rhew Poeth Geraint Drama

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Tudur, Non (10 Tachwedd 2005). "Gweld y Geiriau". Golwg (Argraffwyr Cambrian).
  2. "'S4C Cân i Gymru'". Cyrchwyd 2014-04-29.
  3. "'iTunes – Edrychiad Cynta". Cyrchwyd 2014-04-29.
  4. "'BBC Radio Cymru'". Cyrchwyd 2014-04-29.
  5. "'Daily Post 15 December 2001'". Cyrchwyd 2014-04-29.
  6. "'Theatre Wales'". Cyrchwyd 2014-04-29.
  7. "'Theatre Wales – Adolygiad Plant Gladys". Cyrchwyd 2014-04-29.
  8. "'Theatr Gwynedd - Bownsars'". Cyrchwyd 2014-04-29.
  9. "'IMDB'". Cyrchwyd 2014-04-29.
  10. "'Institute of Contemporary Arts'". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-05-02. Cyrchwyd 2014-04-29.
  11. "'The Guardian'". Cyrchwyd 2014-04-29.
  12. "'Cynnal Fflam' ~ Iwcs". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-10-06. Cyrchwyd 2009-03-28.

Dolenni allanol golygu