Offeryn llinynnol sy'n perthyn i deulu'r gitâr ydy'r iwcalili (o'r Hawäieg ʻukulele [ˈʔukuˈlɛlɛ] "chwannen yn neidio").[1] Fel arfer mae ganddo bedwar tant o neilon neu berfedd, a fe'i cenir drwy strymio gyda'r bysedd.

Yr iwcalili

Ymddangosodd yr iwcalili yn gyntaf fel dehongliad Hawaïaidd o'r cavaquinho a'r rajão, offerynnau bychain a ddaeth i Hawaii gyda mewnfudwyr o Bortiwgal yn y 1870au. Daeth yn boblogaidd yn yr Unol Daleithiau ac yna drwy weddill y byd.

Mae’r iwcalili wedi ei wneud o bren koa yn draddodiadol.

Mae pedwar maint gwahanol ar yr iwcalili ac mae hyd graddfa yr iwcalili yn cynyddu gyda maint yr offeryn: y lleiaf yw’r iwcalili soprano a hyd graddfa yr offeryn yw 13.5” gyda nifer o frets rhwng 12 ac 15; mae rhwng 15 a 20 o frets gan yr iwcalili concert a hyd graddfa yr iwcalili yw 15”; hyd graddfa yr iwcalili tenor yw 17” ac mae gan yr offeryn rhwng 15 a 25 o frets; hyd graddfa yr iwcalili bariton, sef yr iwcalili mwyaf ei faint, yw 19” ac mae’n bosib iddo gael mwy nag 18 o frets. Mae’r iwcalili bariton yn cael ei diwnio i DGBE yn linellol, yn wahanol i’r iwcalilis llai sy’n cael eu tiwnio i GCEA yn adfewniadol.

Mae mathau gwahanol o iwcalili i’w gael megis yr iwcalili banjo, yr iwcalili bâs, a’r guitalele sydd gyda 6 thant yn hytrach na’r 4 sydd ar iwcalili arferol.

Bellach, mae'r iwcalili wedi datblygu i fod yn offeryn poblogaidd tu hwnt gyda phobl o bob oed ac mae yna grwpiau neu gerddorfeydd ukulele i'w gael ar draws y byd gyda nifer yma yng Nghymru yn gweithredu trwy gyfrwng y Gymraeg e.e. Iwcadwli yn Aberystwyth, Y Gerddorfa Ukulele yng Nghaerdydd a Cwmalele yn ardal Pontypridd a Chaerffili. Hefyd, mae nifer o fudiadau megis y Mentrau Iaith yn cynnal "gweithdai ukulele" er mwyn rhoi blas o'r offeryn i blant ac oedolion. Gan fod yr offeryn yn gallu bod yn un ddigon fforddiadwy mae'n cynnig ei hun fel offeryn cynhwysol a hwyliog.

Cyfeiriadau golygu

  1. Michael Kennedy, Geiriadur Cerddoriaeth Rhydychen (Caernarfon: Curiad, 1998), t. 858. Cyfieithwyd gan Delyth Prys.