J. P. R. Williams

Chwaraewr rygbi'r undeb o Gymro

Roedd John Peter Rhys Williams (2 Mawrth 1949 – 8 Ionawr 2024)[1] yn gyn-chwaraewr Rygbi'r Undeb a enillodd 55 o gapiau i Gymru rhwng 1969 a 1981. Ystyrir ef yn un o'r cefnwyr gorau a welodd y gêm erioed. Daeth pobl i'w adnabod fel J. P. R. Williams neu JPR ar ôl 1973 pan ymunodd J. J. Williams â charfan Cymru.

J. P. R. Williams
J. P. R. Williams
Enw llawn John Peter Rhys Williams
Dyddiad geni (1949-03-02)2 Mawrth 1949
Man geni Pen-y-bont ar Ogwr
Dyddiad marw 8 Ionawr 2024(2024-01-08) (74 oed)
Ysgol U. Ysgol Gyfun Brynteg
Prifysgol Ysbyty Santes Fair, Llundain
Gwaith Llawfeddyg
Gyrfa rygbi'r undeb
Gyrfa'n chwarae
Safle Cefnwr
Clybiau amatur
Blynyddoedd Clwb / timau
1967–1968
1967–1968
1968–1976
1969–1977
1974
1976-1990s
1990s–2003
Pen-y-bont ar Ogwr
Ysbyty Santes Fair
Cymry Llundain
Barbariaid
Sharks (Cwpan Currie)
Pen-y-bont ar Ogwr
Tondu
Timau cenedlaethol
Blynydd. Clybiau Capiau
1969–1981
1971–1974
Cymru
Y Llewod
55
8
(36)
(3)

Gyrfa golygu

Roedd yn chwaraewr tenis addawol iawn pan yn ieuanc, ac enillodd bencampriaeth ieuenctid Wimbledon yn 1966 cyn penderfynu canolbwyntio ar rygbi gan y byddai'n cyd-fynd yn well a'i astudiaethau meddygol. Chwaraeodd i glybiau Pen-y-bont ar Ogwr a Chymry Llundain.

Enillodd ei gap cyntaf dros Gymru yn 19 oed yn 1969, a chwaraeodd yn y timau a gyflawnodd Y Gamp Lawn yn 1971, 1976, a 1978. Mewn deg gêm ryngwladol yn erbyn Lloegr sgoriodd bum cais ac ni chollwyd yr un o'r gemau.

Aeth ar daith gyda'r Llewod Prydeinig i Seland Newydd yn 1971 a De Affrica yn 1974. Roedd y teithiau yma yn ddwy o'r teithiau mwyaf llwyddiannus yn hanes y Llewod, a chwaraeodd JPR ran fawr yn y llwyddiant.

Ymddeolodd o rygbi rhyngwladol yn 1981 i ganolbwyntio ar ei yrfa fel llawfeddyg, er iddo barhau i chwarae rygbi clwb am gyfnod.

Fel cefnwr roedd yn enwog am ei ddewrder wrth amddiffyn ac am y ffordd y byddai'n dod i mewn i'r llinell wrth ymosod i greu bylchau.

Bywyd personol golygu

Roedd JPR yn briod a Scilla ac yn byw ym mhentref Llansanwyr, ger y Bont-faen, Bro Morgannwg. Roedd ganddynt pedwar o blant.

Bu farw yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd wedi gwaeledd byr yn brwydro llid yr ymennydd bacteriol.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Seren rygbi Cymru a'r Llewod, JPR Williams, wedi marw". BBC Cymru Fyw. 2024-01-08. Cyrchwyd 2024-01-08.
  2. Kitson, Robert (2024-01-08). "JPR Williams, Wales and Lions rugby union great, dies aged 74". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2024-03-14.
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: