Gwersyll ffoaduriaid Palesteinaidd yng ngogledd Llain Gaza yw Jabaliya. Mae'r gwersyll, sy'n dref sylweddol, yn gorwedd i'r gogledd o ddinas Gaza, rhwng y ddinas hwnnw a'r ffin gydag Israel. Amcangyfrifir fod tua 100,000 o bobl yn byw yno neu yn ei gyffiniau.

Jabaliya
Rhan o Jabaliya yn dilyn yr ymosodiad gan Israel
Mathdinas Edit this on Wikidata
Poblogaeth82,877 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+2, UTC+03:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlywodraethiaeth Gogledd Gaza Edit this on Wikidata
GwladBaner Palesteina Palesteina
Arwynebedd25 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr40 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau31.5281°N 34.4831°E Edit this on Wikidata
Cod post00972 Edit this on Wikidata
Map

Rhyfel 2008-2009 golygu

 
Rhan o Jabaliya yn dilyn yr ymosodiad gan Israel

Dioddefodd Jabaliya yn drwm pan ymosododd Israel ar dir Gaza ar noson y 3ydd o Ionawr 2009 a'r diwrnod wedyn. Erbyn bore'r 4ydd o Ionawr roedd miloedd o'r trigolion yn ffoi i geisio lloches yn ninas Gaza. Ar y 5ed o Ionawr cafwyd adroddiad fod Ysbyty al-Awda yn Jabaliya wedi cael ei daro gan ddau fom Israelaidd a ffrwydrodd o flaen y fynedfa gan ei ddifrodi. Roedd ambiwlansus yn dod â phobl anafiedig pan ddigwyddodd hynny.[1]

Yn y prynhawn ar y 6ed o Ionawr 2009, adroddwyd fod un o ysgolion y Cenhedloedd Unedig yn Jabaliya a oedd yn cael ei defnyddio fel lloches i ffoaduriaid wedi cael ei bomio gan fyddin Israel. Lladdwyd o leiaf 40 o sifiliaid yn Ysgol Al Fakhara. Nododd llefarydd ar ran UNRWA fod baneri'r Cenhedloedd Unedig yn hedfan uwchben yr ysgol a bod ei lleoliad manwl wedi'i rhoi i'r Israeliaid er mwyn osgoi digwyddiad o'r fath.[2] Claddwyd y lladdedigion gan eu teuluoedd mewn angladd mawr ar y 7fed o Ionawr, yn ystod y cadoediad 3 awr a drefnwyd, wrth i'r cyfanswm o Balesteiniaid a laddwyd ers dechrau'r rhyfel gyrraedd dros 700 gyda tua 2900 wedi'u hanafu.[3]

Archeoleg golygu

Cafwyd hyd i fynwent Cristnogol, fawr yn dyddio o'r 8g ger Jabalia. Mae'r crefftwaith yn dangos bod y gymuned Gristnogol yn Gaza yn dal i fodoli i raddau helaeth yn y cyfnod Islamaidd cynnar o reolaeth, ym Mhalestina. Mae olion y palmant a arbedwyd gan yr eiconoclastau yn dangos darluniau o helfa adar ac anifeiliaid gwyllt, a golygfeydd gwledig. Dyddiwyd yr eiconoclastau, i rywbryd ar ôl 750, sy'n gwneud y fynwent yn gysylltiedig â cheidwadwyr Abbasid.

Wrth weithio ar Ffordd Salah al-Din, canfuwyd olion mynachlog o'r cyfnod Bysantaidd ar ddamwain. Cloddiwyd y safle gan Adran Hynafiaethau Palestina. Nawr mae mosaigs Bysantaidd syfrdanol y fynachlog wedi'u gorchuddio â thywod i'w cysgodi rhag erydiad a achosir gan effaith uniongyrchol glaw'r gaeaf.[4] Mae cerameg Bysantaidd hefyd wedi'i ddarganfod.[5]

Hanes golygu

Yr Oesoedd Canol golygu

Roedd Jabalia yn adnabyddus am ei bridd ffrwythlon a'i goed sitrws. Rheolodd y Llywodraethwr Mamluk Gaza Sanjar al-Jawli dros yr ardal ar ddechrau'r 14g a gwaddolodd rhan o dir Jabalia i'r Mosg al-Shamah ac yna, fe'i adeiladodd. Yn Jabalia mae canoloesol Mosg Omari hefyd. Dim ond y portico a'r minaret sydd ar ôl, bellach. Mae gweddill y mosg yn fodern. Mae'r portico'n cynnwys tair arcêd wedi'u cefnogi gan bedair colofn garreg. Mae gan yr arcedau fwâu pigfain ac mae'r portico wedi'i orchuddio gan fwau croes.

Cyfnod Otomanaidd golygu

Wedi'i hymgorffori yn yr Ymerodraeth Otomanaidd ym 1517 (â'r cyfan o Balestina), ymddangosodd Jabalia yng nghofrestrau treth 1596 fel pe bai yn ardal Nahiya o Gaza. Roedd ganddi boblogaeth o 331 o aelwydydd, pob un yn Fwslim, a dalodd drethi ar wenith, haidd, caeau gwinwydd a choed ffrwythau; cyfanswm o 37,640 akçe. Aeth 2/3 o'r refeniw i waqf (math o dreth Fwslimaidd).[6]

Yn 1838, nododd Edward Robinson fod Jebalia yn bentref Mwslimaidd, wedi'i leoli yn ardal Gaza.[7]

Ym 1863, darganfu’r fforiwr Ffrengig Victor Guérin yn y mosg a'r ffynnon darnau o golofnau.[8] Yn 1870 roedd gan y pentref boblogaeth o 828, a 254 o dai, er bod y cyfrif poblogaeth yn cynnwys dynion yn unig.[9][10]

Yn Arolwg 1883 gan Gronfa Archwilio Palesteina, disgrifiwyd Jabalia fel pentref mawr a godwyd o friciau mwd, gyda gerddi a ffynnon yn y gogledd-orllewin. Roedd ganddo fosg o'r enw Jamia Abu Berjas.[11]

Oes Mandad Prydain golygu

Yng nghyfrifiad 1922 o Balesteina a gynhaliwyd gan awdurdodau Mandad Prydain, roedd gan Jabalia boblogaeth o 1,775 o drigolion, pob un yn Fwslim;[12] cynyddodd hyn yng nghyfrifiad 1931 i 2,425, pob un yn Fwslim o hyd, mewn 631 o dai.[13]

 
Jabalia 1931 1: 20,000
 
Jabalia 1945 1: 250,000

Ôl-1948 golygu

Yn ystod misoedd cynnar yr Intifada Cyntaf ar 27 Mawrth 1989 curwyd Fares S'aid Falcha, dyn 50 oed, gan filwyr Israel a bu farw 3 wythnos yn ddiweddarach yn Ysbyty Makassed. Lluniwyd adroddiad gan Heddlu Milwrol Israel a throsglwyddwyd y manylion i'r Prif Erlynydd Milwrol.[14]

Demograffeg golygu

Mae gan Jabalia gyfradd uwch na'r cyfartaledd o enedigaethau Pseudohermaphroditism gwrywaidd, lle mae gan yr unigolyn geilliau ac organau rhywiol benywaidd.

Mae Jehad Abudaia, pediatregydd ac wrolegydd o Ganada-Palesteina, wedi awgrymu bod cydberthynas rhwng priodasau cefndryd yn cyfrif am y genedigaethau hyn. Yn Llain Gaza, mae cyflyrau pseudohermaphroditism yn aml yn mynd heb eu canfod am flynyddoedd ar ôl yr enedigaeth oherwydd safonau is y rhanbarth o driniaeth feddygol a diagnosteg.[15]

Gefeilldrefi golygu

Mae Jabalia wedi'i efeillio â:[16]

Llyfryddiaeth golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Civilian deaths mount in Gaza war" 05.01.2009 Al Jazeera.
  2. "Scores killed as Gaza school hit" 05.01.2009 Al Jazeera.
  3. Fideo: "Gaza families mourn dead after UN school bombed" 07.01.2009 Al Jazeera ar YouTube.
  4. Jabalya Mosaic Archifwyd 2009-03-27 yn y Peiriant Wayback. Programme of Assistance to the Palestinian People. p.6. 2004.
  5. Dauphin, 1998, p. 883
  6. Hütteroth and Abdulfattah, 1977, p. 144
  7. Robinson and Smith, 1841, vol 3, Appendix 2, p. 118
  8. Guérin, 1869, pp. 175-176; as referred by Conder and Kitchener, 1883, SWP III, p. 251
  9. Socin, 1879, p. 153
  10. Hartmann, 1883, p. 129, noted 253 houses
  11. Conder and Kitchener, 1883, SWP III, p. 236
  12. Barron, 1923, Table V, Sub-district of Gaza, p. 8
  13. Mills, 1932, p. 4
  14. Talmor, Ronny (translated by Ralph Mandel) (1990) The Use of Firearms - By the Security Forces in the Occupied Territories. B'Tselem. download p. 75 MK Yair Tsaban to defence ministers Yitzhak Rabin & Yitzhak Shamir, p.81 Rabin's reply
  15. Watson, Ivan. "Rare Gender Identity Defect Hits Gaza Families." CNN. December 17, 2009. Retrieved on December 17, 2009.
  16. "Ümraniye Municipality and Palestine Jabalia Al Nazlah Municipality Has Become 'Sister Municipalities' With a Ceremony". umraniye.bel.tr. Ümraniye. Cyrchwyd 2020-06-01.

Dolenni allanol golygu