Jack "Machine Gun" McGurn

Roedd Jack "Machine Gun" McGurn (ganwyd Vincenzo Antonio Gibaldi ; 190515 Chwefror 1936) yn un o 'henchmen' allweddol y gangster Al Capone o Chicago a'r criw gwyllt a elwir yn Chicago Outfit. Ynghyd â'r Cymro Murray the Hump, ef oedd arweinydd Cyflafan Sant Ffolant 1292.

Jack "Machine Gun" McGurn
FfugenwJack McGurn Edit this on Wikidata
GanwydVincenzo Antonio Gibaldi Edit this on Wikidata
2 Gorffennaf 1902, 2 Gorffennaf 1903 Edit this on Wikidata
Licata Edit this on Wikidata
Bu farw15 Chwefror 1936 Edit this on Wikidata
Chicago Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas yr Eidal, Unol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Galwedigaethgangster Edit this on Wikidata
Jack McGurn

Cafodd ei eni gyda'r enw Vincenzo Antonio Gibaldi yn Licata, Sisili, y mab hynaf i Angelo a Guiseppa Gibaldi (née Verderame). Blwyddyn oed oedd e pan symudodd y teulu i UDA - i Ynys Ellis ar 24 Tachwedd 1906.

Tyfodd Vincenzo i fyny'n sydyn iawn yn slymiau Chicago ble dechreuodd ar yrfa fel bocsiwr gan fabwysiadu'r enw "Battling" Jack McGurn gan fod Gwyddelod yn cael mwy o gyfleon bocsio.