Llofrudd cyfresol o Awstria oedd Johann "Jack" Unterweger (16 Awst 195029 Mehefin 1994) a lofruddiodd nifer o buteiniaid. Ym 1974 cafwyd ef yn euog o ladd Margaret Schäfer, Almaenes 18 mlwydd oed, trwy ei thagu â'i bronglwm ei hunan. Tra yn y carchar, bu Unterwger yn llenor cynhyrchiol. Daeth yn cause célèbre i ddeallusion Awstriaidd a bu deisebau i'w bardynu. Ym 1990 rhyddhawyd Unterweger a chyflwynodd raglenni teledu ar adferiad. Yn ystod ei flwyddyn gyntaf yn rhydd, lladdodd chwe phutain yn Awstria. Ym 1991 aeth i Los Angeles i ysgrifennu am droseddu a phuteindra ar gyfer cylchgrawn Awstriaidd ac yn ystod ei amser yng Nghaliffornia bu farw tair putain yn yr un modd ac y bu farw Schäfer. Pan gasglwyd digon o dystiolaeth i'w arestio, ffodd Unterweger ar draws Ewrop, Canada, a'r Unol Daleithiau. Cafodd ei arestio gan yr FBI ym Miami ym 1992 a'i anfon yn ôl i Awstria. Cafodd ei gyhuddo o 11 o lofruddiaethau. Wedi iddo gael ei ddedfrydu ym 1994 i garchar am oes heb bosibilrwydd parôl, cymerodd ei fywyd ei hunan.

Jack Unterweger
GanwydJohann Unterweger Edit this on Wikidata
16 Awst 1950 Edit this on Wikidata
Judenburg Edit this on Wikidata
Bu farw29 Mehefin 1994 Edit this on Wikidata
o crogi Edit this on Wikidata
Graz Edit this on Wikidata
DinasyddiaethAwstria Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, llofrudd cyfresol, hunangofiannydd Edit this on Wikidata


Baner AwstriaEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Awstriad neu Awstries. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.