Jacob Gedleyihlekisa Zuma (ganed 12 Ebrill 1942) oedd Arlywydd De Affrica rhwng 2009 a'i ymddiswyddiad yn Chwefror 2018.[1] Fe oedd y pedwerydd Arlywydd yn y cyfnod wedi diwedd Apartheid.

Jacob Zuma
GanwydJacob Gedleyihlekisa Zuma Edit this on Wikidata
12 Ebrill 1942 Edit this on Wikidata
Nkandla Edit this on Wikidata
DinasyddiaethDe Affrica, Undeb De Affrica Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddArlywydd De Affrica, Is-lywydd, Aelod o Gynulliad Cenedlaethol De Affrica Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolAfrican National Congress, South African Communist Party Edit this on Wikidata
PriodNkosazana Dlamini-Zuma, Tobeka Madiba, Nompumelelo Ntuli Zuma, Kate Mantsho, Gertrude Sizakele Khumalo, Gloria Bongekile Ngema Edit this on Wikidata
PlantThuthukile Zuma, Gugulethu Zuma-Ncube, Duduzane Zuma, Sinqumo Zuma, Mziwoxolo Edward Zuma, Mxolisi (Saady) Zuma, Duduzile Zuma-Sambudla Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog Groes Fawr Urdd y Baddon, Urdd José Martí, Order of the Eagle of Zambia, Urdd Gwladwriaeth Serbia, Urdd Abdulaziz al Saud Edit this on Wikidata

Ganed Zuma yn KwaZulu-Natal, yn aelod o lwyth y Swlŵiaid. Ymunodd a'r ANC yn 1959, a daeth yn aelod o'r adain arfog, Umkhonto we Sizwe. Yn 1963 cymerwyd ef i'r ddalfa, a threuliodd ddeng mlynedd yn y carchar ar Ynys Robben.

Rhwng 1999 a 2005 bu'n Ddirpwy Arlywydd De Affrica dan Thabo Mbeki, ac ers 18 Rhagfyr 2007 mae wedi bod yn gadeirydd yr ANC. Wedi i'r ANC ennill etholiad Ebrill 2009, dewiswyd ef yn Arlywydd gan y Senedd ar 6 Mai 2009, a dechreuodd ar y swydd ar 9 Mai.

Daethpwyd ag achos llys am lygredd yn ei erbyn, ac mae'r achos yn parhau heb ddod i gasgliad. Oherwydd hyn a hanesion am anturiaethau rhywiol, beirniadwyd Zuma yn llym gan yr Archesgob Desmond Tutu.

Ym mis Medi 2021, gwrthododd Llys Cyfansoddiadol De Affrica ddeiseb y cyn-Arlywydd Jacob Zuma i wyrdroi ei ddyfarniad gan ei ddedfrydu i 15 mis yn y carchar am ddirmyg cyfiawnder.

Cyfeiriadau golygu

  1. South Africa's President Jacob Zuma resigns (en) , BBC News, 14 Chwefror 2018.
Swyddi gwleidyddol
Rhagflaenydd:
Kgalema Motlanthe
Arlywydd De Affrica
20092018
Olynydd:
Cyril Ramaphosa