Seiclwr rasio Seisnig o Chorley, Swydd Gaerhirfryn ydy Jason Queally (ganwyd 11 Mai 1970)[1].

Jason Queally
Gwybodaeth bersonol
Enw llawnJason Queally
Dyddiad geni (1970-05-11) 11 Mai 1970 (53 oed)
Taldra1.83 m
Pwysau88 kg
Manylion timau
DisgyblaethTrac
RôlReidiwr
Prif gampau
Pencampwr y Byd
Gemau Olympaidd
Gemau Olympaidd
Gemau'r Gymanwlad x5
Pencampwr Prydain
Golygwyd ddiwethaf ar
27 Medi, 2007

Tra'n fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerhirfryn, cynyrchiolodd brifysgolion Prydain a Chaerhirfryn ym mholo dŵr. Dechreuodd seiclo'n gystadleuol tra'n 25 oed. Yn 1996, bu bron iddo gael ei ladd yn trac seiclo Meadowbank yng Nghaeredin, pan aeth sblint pren o'r trac i mewn i'w frest ac i'w ysgyfaint trwy ei gesail.

Yn Hydref 2001 cystadlodd Queally yn y World Human Powered Speed Challenge [2] yn Battle Mountain, Nevada ar Blueyonder beic recumbent [3], a adeiladwyn yn bennaf o ffibr carbon gan Reynard Motorsport i ddyluniad Chris Field. Cymerodd y cerbyd ei enw o'r noddwyr, Blueyonder (rhan o Virgin Media erbyn hyn). Yn y gystadleuaeth hon, mae'r holl gerbydau yn teithio heb gael eu cynorthwyo, gan allt, gwynt na theithio tu ôl i gerbyd arall. Deliodd Queally gyflymder o 64.34 mph am 200 metr, dros y rhan o'r cwrs a gafodd ei amseru, gan osod record newydd Ewropeaidd. Deliodd yr enillydd, Sam Whittingham, gyflymder o 80.55 mph.

Canlyniadau golygu

1998
2il   Kilo, Gemau'r Gymanwlad
1999
2il Sbrint Tîm, Pencampwriaethau Trac Y Byd, UCI
2000
1af   Kilo, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain‎
1af   Kilo, Gemau Olympaidd
2il   Sbrint Tîm, Gemau Olympaidd
2il Sbrint Tîm, Pencampwriaethau Trac Y Byd, UCI
3ydd Kilo,Pencampwriaethau Trac Y Byd, UCI
2001
3ydd Sbrint Tîm, Pencampwriaethau Trac Y Byd, UCI
2002
2il   Kilo, Gemau'r Gymanwlad
2il   Sbrint Tîm, Gemau'r Gymanwlad
2003
3ydd Sbrint Tîm, Pencampwriaethau Trac Y Byd, UCI
2004
3ydd Sbrint Tîm, Pencampwriaethau Trac Y Byd, UCI
2005
1af   Sbrint Tîm, Pencampwriaethau Trac Y Byd, UCI
2il Kilo,Pencampwriaethau Trac Y Byd, UCI
2006
2il   Kilo, Gemau'r Gymanwlad
2il   Sbrint Tîm, Gemau'r Gymanwlad

Dolenni Allanol golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Gwefan swyddogol y Gemau Olympaidd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-02-03. Cyrchwyd 2007-09-27.
  2. [1]
  3. [2]