Cyfreithiwr a gwleidydd Canadaidd oedd Jean Drapeau (18 Chwefror 191612 Awst 1999). Maer Montréal oedd ef am ddwy ysbaid, o 1954 hyd 1957 ac o 1960 hyd 1986.

Jean Drapeau
Ganwyd18 Chwefror 1916 Edit this on Wikidata
Montréal Edit this on Wikidata
Bu farw12 Awst 1999 Edit this on Wikidata
Montréal Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Faculté de droit de l'Université de Montréal Edit this on Wikidata
GalwedigaethMaer Montreal, cyfreithiwr Edit this on Wikidata
SwyddMaer Montreal, Maer Montreal Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolCivic Action League, Civic Party of Montreal Edit this on Wikidata
Gwobr/auOlympic Order, Cydymaith o Urdd Canada, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Laval, Uwch Swyddog Urddd Cenedlaethol Cwebéc, honorary doctorate from the McGill University, Doethuriaeth er Anrhydedd Université de Montréal, doctor honoris causa, Quebec Sports Hall of Fame Edit this on Wikidata
llofnod
Cerflun o Jean Drapeau ger Place Jacques Cartier yn yr hen dref, Montréal

Gwelwyd adfywio'r ddinas o dan ei weinyddiaeth, gan gynnwys prosiectau mawr megis y metro, neuadd gyngerdd y Place des Arts, ac arddangosfa'r Expo (1967). Cyflwynodd loteri gyhoeddus gyntaf Canada ym 1968 fel ffordd i gylludo'r ddinas, syniad a ddilynwyd yn ddiweddarach ar lefel daleithiol. Cynhaliwyd y Gemau Olympaidd ym Montréal dan ei arweinyddiaeth ym 1976. Er gwaethaf llwyddiant y gemau, parhaodd baich y dyledion a achosasant am blynyddoedd maith. Ar ôl iddo ymddeol o fywyd gwleidyddol ym 1986, fe'i penodwyd fel cenhadwr Canada i UNESCO ym Mharis, swydd a gyflawnodd am bedair blynedd o 1987 hyd 1991. Bu farw ym 1999.