Gwirod sydd ag aeron meryw fel prif darddiad ei flas yw jin neu wirod meryw.[1] Gellir distyllu jin o unrhyw grawn, taten neu fetysen, ond iddo gael blas aeron meryw. Gan amlaf caiff ei ddistyllu mwy nag unwaith.

Detholiad o jin ar werth mewn siop wirodydd yn Decatur, Georgia, UDA.

Gwneir jin yn gyntaf yn yr Iseldiroedd yn yr 17g, a chywasgiad o'r gair Iseldireg genever (merywen) yw "jin".[2] Daeth yn boblogaidd iawn yng ngwledydd Prydain, yn enwedig Llundain, mewn cyfnod a elwir yn y Gin Craze.[3] Gelwir jin sych sydd ag ABV o tua 40% yn jin sych Llundeinig. Cafodd y rhai gwreiddiol eu cynhyrchu yn Llundain, ond heddiw gellir eu distyllu yn unrhyw le. Gellir hefyd trwytho jin ag eirin surion bach a siwgr i wneud y gwirodlyn a elwir yn jin eirin (Saesneg: sloe gin).

Gordon's yw'r jin sych Llundeinig mwyaf poblogaidd yn y byd. Fe'i gynhyrchir yng ngwledydd Prydain ers 1769, ac mae gan y cwmni Warant Frenhinol. Ymysg y brandiau eraill o jin yw Bombay Sapphire, Tanqueray, Beefeater, a Hendrick's. Distyllir Brecon Gin ym Mhenderyn.

Mae jin yn gynhwysyn craidd i fwy o goctels nag unrhyw gwirod arall.[4] Ymysg y diodydd cymysg poblogaidd sy'n cynnwys jin yw'r Tom Collins, y Singapore Sling, a'r jin a thonig.

Cyfeiriadau golygu

  1. Griffiths, Bruce a Jones, Dafydd Glyn. Geiriadur yr Academi (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1995 [argraffiad 2006]), t. 604 [gin].
  2. Rockwood, Camilla (gol.). Brewer's Dictionary of Phrase and Fable, 18fed argraffiad (Caeredin, Chambers, 2009), t. 557.
  3. Dillon, Patrick. The Much-lamented Death of Madam Geneva (Llundain, Headline Review, 2002).
  4. Halley, Ned. The Wordsworth Ultimate Cocktail Book (Ware, Wordsworth, 1998), t. 74.

Dolenni allanol golygu