Joanna Southcott

esgob esgobaethol (1750-1814)

Ffanatig crefyddol o Saesnes oedd Joanna Southcott (Ebrill 175027 Rhagfyr 1814). Roedd ei dilynwyr yn credu ei bod yn broffwydoles a feddai ar gyfrinachau mawr.

Joanna Southcott
Ganwyd25 Ebrill 1750 Edit this on Wikidata
Dyfnaint Edit this on Wikidata
Bu farw27 Rhagfyr 1814 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaethesgob esgobaethol Edit this on Wikidata

Cafodd ei geni yn ferch i ffermwr yn Nyfnaint tua'r flwyddyn 1750. Yn 1792 cyhoeddodd mai hi oedd y broffwydoles y cyfeirir ati yn Llyfr y Datguddiad, pennod xii. Aeth i Lundain ar wahoddiad yr engrafwr William Sharp (1749-1824). Ysgrifennodd dros 200 o bamffledi a llyfrau proffwydol, yn cynnwys A Warning (1803) a The Book of Wonders (1813-1814). Ymhlith ei disgyblion oedd y golygydd a geiriadurwr o Gymro William Owen Pughe, a weithredai fel ffactotwm iddi.

Yn 1814 cyhoeddodd ei bod am roi genedigaeth i'r "Ail Dywysog Heddwch" - sef y Meseia newydd - ar 19 Hydref y flwyddyn honno. Ond dioddefodd coma ar yr ymenydd a bu farw ym mis Rhagfyr.[1]

Credir fod gan Southcott hyd at 100,000 o ddisgyblion ar un adeg, a elwid yn 'Southcottiaid'. Daliodd rhai o'i disgyblion i gredu ynddi er gwaethaf hyn ac ni fu farw ei chwlt yn gyfangwbl. Gadawodd ar ei hôl flwch o broffwydoliaethau gyda'r cyfarwyddiad i'w agor ym mhresenoldeb pob esgob o Eglwys Loegr ar achlysur "argyfywng cenedlaethol." Mae rhai pobl yn honni hyd heddiw fod y blwch yn bodoli, er i flwch o'i heiddo gael ei agor oedd yn cynnwys dim byd ond papurach a phistol.

Darllen pellach golygu

  • James K. Hopkins: A woman to deliver her people. Joanna Southcott and English millenarianism in an era of revolution. Austin: University of Texas Press, 1981. ISBN 0-292-79017-1
  • Val Lewis: Satan's mistress, the extraordinary story of the 18th century fanatic Joanna Southcott and her lifelong battle with the Devil. Shepperton: Nauticalia, 1997. ISBN 0-9530458-0-3
  • Frances Brown: Joanna Southcott, the woman clothed with the sun. Cambridge: Lutterworth, 2002. ISBN 0-7188-3018-0
  • Frances Brown: Joanna Southcott's box of sealed prophecies. Cambridge: The Lutterworth Press, 2003. ISBN 0-7188-3041-5

Cyfeiriadau golygu

  1. Robert Chamber's Book of Days, cyf. 2, t. 775.