Joe Biden

46ain arlywydd yr Unol Daleithiau

Gwleidydd Americanaidd a 46eg Arlywydd yr Unol Daleithiau yw Joseph Robinette "Joe" Biden, Jr. (ganwyd 20 Tachwedd 1942). Fe'i sefydlwyd ar 20 Ionawr 2021. Bu'n seneddwr dros dalaith Delaware o 3 Ionawr 1973 hyd 15 Ionawr 2009. Ymgeisiodd gyda Barack Obama yn etholiad arlywyddiaeth UDA yn 2008. Ar 20 Ionawr 2009 olynodd Dick Cheney i ddod yn Is-Arlywydd yr Unol Daleithiau. Enillodd Obama ag ef ail dymor yn 2012.

Joe Biden
Joe Biden


Deiliad
Cymryd y swydd
20 Ionawr 2021
Is-Arlywydd(ion)   Kamala Harris
Rhagflaenydd Donald Trump

Cyfnod yn y swydd
20 Ionawr 2009 – 20 Ionawr 2017
Rhagflaenydd Dick Cheney
Olynydd Mike Pence

Cyfnod yn y swydd
3 Ionawr 1973 – 15 Ionawr 2009
Rhagflaenydd J. Caleb Boggs
Olynydd Ted Kaufman

Geni 20 Tachwedd 1942
Scranton, Pennsylvania, UDA
Plaid wleidyddol Democratwr
Priod Neilia Hunter (1966–1972)
Jill Biden (priod 1977)
Plant Joseph "Beau", Robert "Hunter", Naomi ac Ashley

Ymgeisyddiaeth arlywyddol 2020 golygu

Ceisiodd ddod yn ymgeisydd dros y Democratiaid i Arlywyddiaeth yr Unol Daleithiau yn 1988 a 2008 ond ni lwyddodd ennill yr enwebiad. Yn Ebrill 2019, cyhoeddodd Biden ei fod yn ymgeisio am yr Arlywyddiaeth yn 2020, ac ym Mehefin 2020 sicrhaodd ddigon o enwebiadau y tro hwn i ddod yn ymgeisydd y Democratiaid.[1] Ar 11 Awst, dewisodd y Seneddwr Kamala Harris o Galiffornia fel ei bartner yn y ras.[2]

Oherwydd y pandemig coronafirws anogwyd pleidleiswyr Democrataidd i bleidleisio yn gynnar a drwy'r post neu 'dropbox' yn hytrach nac ar y diwrnod. I'r gwrthwyneb, anogodd yr Arlywydd Trump ei gefnogwyr i bleidleisio yn y cnawd gan ddrwgdybio y broses o bleidleisiau post. Mewn rhai taleithiau nid oedd hawl cyfreithiol i gyfri'r papurau pleidleisio hynny o flaen llaw. Erbyn diwrnod yr etholiad roedd miliynau o bleidleisiau i'w cyfri a cymerodd hyn drwy'r wythnos i'w cyfri a gwirio. Cyfrifwyd pleidleisiau a fwriwyd ar y diwrnod i ddechrau, ac roedd mwyafrif y rheiny ar gyfer yr Arlywydd Trump. Felly roedd Trump i weld yn arwain y ras mewn sawl talaith nes i'r pleidleisiau post gael eu cyfri. Cafwyd sawl honiad gan Trump fod y broses etholiadol yn 'llwgr' ond ni gyflwynwyd unrhyw dystiolaeth o hynny.[3]

Ar y dydd Sadwrn, 7 Tachwedd 2020, daeth cyhoeddiad am bleidleisiau a gyfrwyd yn Philadelphia, Pennsylvania. Cyfrifwyd felly fod Biden wedi ennill y dalaith gyda mwyafrif o dros 0.5% a felly sicrhau dros 270 pleidlais yn y coleg etholiadol.[4]

Erbyn Ionawr 2021, roedd Biden wedi ennill dros 81 miliwn pleidlais, y nifer mwyaf o bleidleisiau i Arlywydd yr U.D.A. mewn hanes. Cafodd Arlywydd Trump 74 miliwn pleidlais, yr ail nifer mwyaf o bleidleisiau. Roedd y niferoedd uchel yn bennaf am fod nifer fawr wedi pleidleisio drwy'r post.[5]

Mewn cyfarfod o Gyngres yr Unol Daleithiau ar 6 Ionawr 2021, y bwriad oedd casglu a chyfri'r pleidleisiau gan etholwyr bob talaith, er fod disgwyl i sawl aelod o'r Gweriniaethwyr i wrthod pleidleisiau rhai taleithiau. Yn gynharach yn y diwrnod, roedd yr Arlywydd Trump wedi annerch torf o'i gefnogwyr o flaen y Tŷ Gwyn, a'i annog i orymdeithio i adeilad Capitol Hill i brotestio mai fod yr Etholiad yn 'dwyll' ac mai ef oedd yn fuddugol. Tra fod y Gyngres yn cyfarfod, llwyddodd nifer o gefnogwyr Trump i dorri fewn a meddiannu adeilad y Capitol, gan falurio swyddfeydd y Seneddwyr. Symudwyd y gwleidyddion a'i staff i lefydd diogel. Bu farw un fenyw yn y gwrthdaro gyda'r heddlu a thri person arall o “argyfyngau meddygol”.[6]

Yn ddiweddarach, wedi i'r heddlu a swyddogion arfog gael y sefyllfa dan reolaeth, dychwelodd y gwleidyddion i'r Gyngres, gan gyfri gweddill y pleidleisiau a chymeradwyo etholiad Joe Biden fel yr Arlywydd nesaf.[7]

Cyfeiriadau golygu

  1. Linskey, Annie (June 9, 2020). "Biden clinches the Democratic nomination after securing more than 1,991 delegates".
  2. Kamala Harris yn derbyn enwebiad y Democratiaid i herio’r Gweriniaethwyr , Golwg360, 20 Awst 2020. Cyrchwyd ar 5 Tachwedd 2020.
  3. Joe Biden gam yn nes at hawlio buddugoliaeth yn yr etholiad arlywyddol , Golwg360, 5 Tachwedd 2020. Cyrchwyd ar 7 Tachwedd 2020.
  4. Joe Biden yw enillydd ras arlywyddol yr Unol Daleithiau , Golwg360, 7 Tachwedd 2020.
  5. Biden becomes first presidential candidate to win more than 80 million votes (en) , CNN, 25 Tachwedd 2020. Cyrchwyd ar 26 Tachwedd 2020.
  6. Washington: Pedwar wedi marw mewn protestiadau treisgar gan gefnogwyr Trump , Golwg360, 7 Ionawr 2021.
  7. Donald Trump yn addo “trosglwyddiad trefnus” o’r awenau i’r darpar Arlywydd Joe Biden , Golwg360, 7 Ionawr 2021.

Dolenni allanol golygu

Cyngres yr Unol Daleithiau
Rhagflaenydd:
J. Caleb Boggs
Seneddwr dros Delaware
gyda William V. Roth, Thomas R. Carper

19732009
Olynydd:
Ted Kaufman
Swyddi gwleidyddol
Rhagflaenydd:
Dick Cheney
Is-Arlywydd Unol Daleithiau America
20 Ionawr 200920 Ionawr 2017
Olynydd:
Mike Pence
   Eginyn erthygl sydd uchod am Americanwr neu Americanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.