John Bunyan

ysgrifennwr, diwinydd, pregethwr, nofelydd (1628-1688)

Awdur crefyddol o Sais oedd John Bunyan (28 Tachwedd 162831 Awst 1688).[1] Roedd yn Biwritan argyhoeddedig. Ei waith mwyaf adnabyddus yw'r alegori hir Taith y Pererin (The Pilgrim's Progress), un o'r llyfrau Cristnogol mwyaf dylanwadol erioed.

John Bunyan
Ganwyd28 Tachwedd 1628 Edit this on Wikidata
Elstow Edit this on Wikidata
Bu farw31 Awst 1688 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Ysgol Bedford Edit this on Wikidata
Galwedigaethdiwinydd, ysgrifennwr, pregethwr, nofelydd, Tincer Edit this on Wikidata
Adnabyddus amTaith y Pererin Edit this on Wikidata
Arddullalegori Edit this on Wikidata
Priodgwraig cyntaf John Bunyan, Elizabeth Bunyan Edit this on Wikidata
llofnod

Bywgraffiad golygu

Ganwyd Bunyan yn Elstow ger Bedford, yn fab i dincer (trwsiwr offer metal domestig o bob math). Yn 1649 priododd ferch dlawd ac yn fuan wedyn dechreuodd gael cyfres o brofiadau crefyddol mewnol dwys a ddisgrifir yn ei gyfrol ddylanwadol Grace Abounding.

O 1653 ymlaen bu'n pregethu i gynulleidfaoedd Anghydffurfiol o gwmpas Bedford. Daeth i gysylltiad â George Fox, arweinydd y Crynwyr, ac ysgrifennodd draethawd yn ymosod ar gred yr enwad honno.

Ym 1660 cafodd Bunyan ei arestio mewn ffermdy ger Ampthill a threuliodd y ddeuddeg blynedd nesaf yn y carchar. Yno yr aeth ati i lenydda mewn difrif ac mae nifer o'i weithiau mawr yn dyddio i'r cyfnod hwnnw, yn cynnwys Grace Abounding (1666).

Dylanwad golygu

 
Breuddwyd Bunyan, engrafiad gan John Rogers yng nghasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Mae gweithiau Bunyan wedi'u cyfieithu i'r Gymraeg nifer o weithiau dros y blynyddoedd. Yn y 19g prin oedd y capelwyr na cheid copi o waith Bunyan yn eu cartref.

Llyfryddiaeth golygu

Gwaith Bunyan golygu

  • Some Gospel Truths Opened (1656)
  • A Vindication of Gospel Truths Opened (1657)
  • Profitable Meditations (1661)
  • I Will Pray With the Spirit (1663)
  • Christian Behaviour (1663)
  • The Holy City (1665)
  • The Resurrection of the Dead (1665)
  • Grace Abounding (1666)
  • Taith y Pererin (Rhan 1, 1678, 1679; Rhan 2, 1684)
  • Life and Death of Mr Badman (1680)
  • Holy War (1682)

Cyfeiriadau golygu

  1. Samuel J. Rogal (1991). Calendar of Literary Facts: A Daily and Yearly Guide to Noteworthy Events in World Literature from 1450 to the Present (yn Saesneg). Gale Research. t. 88. ISBN 978-0-8103-2943-0.