John Meurig Thomas

Gwyddonydd, cemegydd ac addysgwr o Gymro

Gwyddonydd, cemegydd ac addysgwr o Gymro oedd Syr John Meurig Thomas FRS (15 Rhagfyr 193213 Tachwedd 2020)[1] sy'n adnabyddus am ei waith ymchwil ar gatalysis heterogenaidd.

John Meurig Thomas
Ganwyd15 Rhagfyr 1932 Edit this on Wikidata
Y Tymbl Edit this on Wikidata
Bu farw13 Tachwedd 2020 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcemegydd, academydd, academydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
PriodJehane Ragai Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Gwobr Corday-Morgan, Gwobr Darlithyddiaeth Faraday, Gwobr Syr George Stokes, Gwobr Willard Gibbs, Bakerian Lecture, Medal Davy, Medal Brenhinol, Fellow of the Royal Academy of Engineering, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America, Tilden Prize, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Madrid, Marchog Faglor, Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, Longstaff Prize, Sven Berggren prize, Royal Society Bakerian Medal Edit this on Wikidata

Cafodd ei fagu yn Heol Bethesda, Tymbl a mynychodd Ysgol Ramadeg y Gwendraeth.

Wedi iddo dderbyn Cadair yr Adran Gemeg yng Ngholeg Prifysgol Aberystwyth cafodd ei wneud yn Bennaeth Adran Gemeg ffisegol ym Mhrifysgol Caergrawnt. Wedyn dyrchafwyd ef yn Athro preswyl a chyfarwyddwr labordy'r Sefydliad Brenhinol cyn dychwelyd i Brifysgol Caergrawnt lle'r oedd yn Athro Emeritws Cemeg Cyflwr Solet.[2]

Enwyd y mwyn meurigite ar ei ôl.

Roedd hefyd yn Gymrawd Cychwynnol o Gymdeithas Ddysgedig Cymru ac yn Aelod o’r Cyngor cychwynnol.

Cyfeiriadau golygu

  1. Y gwyddonydd, yr Athro Syr John Meurig Thomas, wedi marw , BBC Cymru Fyw, 13 Tachwedd 2020.
  2. Cwm Gwendraeth a Llanelli Ann Gruffydd Rhys. Gwasg Carreg Gwalch 2000
   Eginyn erthygl sydd uchod am wyddonydd Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.