Sant Catholig sy'n cael ei ddisgrifio weithiau fel y sant Americanaidd cyntaf oedd John Neumann (28 Mawrth 1811 - 5 Ionawr 1860).

John Neumann
Ganwyd28 Mawrth 1811 Edit this on Wikidata
Prachatice Edit this on Wikidata
Bu farw5 Ionawr 1860 Edit this on Wikidata
Philadelphia, Unol Daleithiau America Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Charles yn Prague Edit this on Wikidata
Galwedigaethoffeiriad Catholig, esgob Catholig Edit this on Wikidata
Swyddesgob esgobaethol Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl5 Ionawr, 5 Ionawr Edit this on Wikidata
llofnod

Cafodd Neumann ei eni yn Prachatice yn Bohemia (Gweriniaeth Tsiec heddiw) yn 1811. Astudiodd yn České Budějovice ac aeth ymlaen i Brifysgol Prag lle graddiodd mewn Diwinyddiaeth.

Roedd wedi dysgu Saesneg trwy siarad â gweithwyr Americanaidd mewn ffatri ym Mhrag. Trefnodd i fynd i'r Unol Daleithiau i weinyddu'r Efengyl, er nad oedd ganddo fawr o arian at y daith, a daeth yn esgob Catholig Philadelphia yn 1852. Sefydlodd y system addysg Gatholig gyntaf yn America a chynyddodd y nifer o ddisgyblion o 500 i 9,000 dan ei arweinyddiaeth.

Ar 5 Ionawr 1860 bu farw'n sydyn wrth gerdded strydoedd Philadelphia. Cafodd ei ganoneiddio gan y Pab Pawl VI ym Mehefin 1977.