John Parry (Bardd Alaw)

telynor

Cerddor a chyfansoddwr Cymreig oedd John Parry neu "Bardd Alaw" (18 Chwefror, 17768 Ebrill, 1851). Yng Nghymru, fel "Bardd Alaw", roedd yn adnabyddus fel telynor. Cyhoeddodd sawl cyfrol am gerddoriaeth Cymru.

John Parry
Ganwyd18 Chwefror 1776 Edit this on Wikidata
Dinbych Edit this on Wikidata
Bu farw8 Ebrill 1851 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcerddor Edit this on Wikidata
Arddullopera Edit this on Wikidata
PlantJohn Orlando Parry Edit this on Wikidata
Cyhoeddodd John Parry The Welsh Harper ar y cyd â Maria Jane Williams yn 1848 (wyneblun: darlun dychmygol o Ddafydd ap Gwilym).

Gyrfa golygu

Ganed John Parry yn nhref Dinbych yn 1776. Dywedir mai ennill am ganu'r delyn mewn eisteddfod leol yn yr Wyddgrug a fu dechrau ei yrfa gerddorol broffesiynol.[1] Arweiniodd fand Milisia Sir Ddinbych am gyfnod. Yn 1807 symudodd i Lundain lle ganwyd ei fab y diddanwr John Orlando Parry. Daeth yn adnabyddus fel meistr ar ganu'r flageolet dwbl. Yn 1809 dechreuodd gyfansoddi a chyhoeddi darnau cerddorol i'r delyn a'r piano ac offerynnau eraill. Fe'i apwyntiwyd yn gyfarwyddwr cerddorol y Vauxhall Gardens yn yr un flwyddyn.

Cafodd yr enw barddol "Bardd Alaw" yn Eisteddfod Wrecsam 1821. Cyhoeddodd sawl traethawd a chyfrol ar gerddoriaeth Cymru, yn cynnwys dwy gyfrol o alawon Cymreig. Roedd yn adnabod Arglwyddes Llanofer a Felicia Hemans. Yn 1822 daeth yn Gofrestrydd Cerddorol i'r Cymmrodorion, ac ar 24 Mai 1826, cynhaliwyd cyngerdd er ei les ac anrhydedd ganddynt.[2] Am weddill ei oes cymerodd ran amlwg fel beirniad cerdd mewn eisteddfodau. Bu farw yn ei gartref yn Llundain ar 8 Ebrill 1851, yn 75 mlwydd oed.[2]

Gwaith golygu

Llyfrau
  • The Ancient Britons' Martial Music (1804)
  • Welsh Melodies (1809)
  • An Account of the Rise and Progress of the Harp (1834)
  • An Account of the Royal Musical Festival Held in Westminster Abbey in 1834 (1834)
  • The Welsh Harper (1848), gyda Maria Jane Williams.
Rhai alawon
  • "Gwenynen Gwent"
  • "Ap Shencyn"
  • "Dyddgwyl Dewi"

Cyfeiriadau golygu

  1. Robert Griffith, Llyfr Cerdd Dannau (Caernarfon, d.d.=1913), tud. 262.
  2. 2.0 2.1 Robert Griffith, Llyfr Cerdd Dannau (Caernarfon, d.d.=1913), tud. 263.