John Randolph

ysgrifennwr, offeiriad, academydd (1749-1813)

Clerigwr ac ysgolhaig Seisnig a fu'n Esgob Bangor oedd John Randolph (6 Gorffennaf 174928 Gorffennaf 1813).

John Randolph
Ganwyd6 Gorffennaf 1749 Edit this on Wikidata
Much Hadham, Saltwood Edit this on Wikidata
Bu farw28 Gorffennaf 1813 Edit this on Wikidata
Man preswylFulham Palace Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Prydain Fawr Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethoffeiriad, ysgrifennwr, academydd Edit this on Wikidata
SwyddEsgob Llundain, Esgob Rhydychen, Esgob Bangor Edit this on Wikidata
Cyflogwr
TadThomas Randolph Edit this on Wikidata
PriodJane Lambard Edit this on Wikidata
PlantThomas Randolph, George Randolph Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd y Gymdeithas Frenhinol Edit this on Wikidata

Bu Randolph yn dysgu ym Mhrifysgol Rhydychen, ac yn 1776 gwnaed ef yn Athro Regius Barddoniaeth yno. Yn 1783 daeth yn Athro Regius Diwinyddiaeth.

Yn 1799, penodwyd ef yn Esgob Rhydychen, lle bu nes ei drosglwyddo i fod yn Esgob Bangor yn 1807. Ar 12 Mehefin, 1809, gwnaed ef yn Esgob Llundain ac yn aelod o'r Cyfrin Gyngor ex officio. Bu yn y swydd hyd ei farwolaeth.

Nid ymddengys ei fod yn gefnogol i addysg i'r tlodion. Wrth ddadlau yn erbyn ehangu ysgolion rhad, dywedodd y byddai addysgu'r tlodion yn "…puff up their tender minds or entice them into a way of life of no benefit to the publick and ensnaring to themselves."